CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Newyddion

CWVYS fel y Rhwydwaith Ieuenctid yn y Cynllun Sector Gwirfoddol


Mae'n bleser gan CWVYS gyhoeddi i Paul Glaze gael ei benodi'n Brif Weithredwr newydd.  Bydd yn cychwyn yn ei swydd ar 1 Gorffennaf 2009.

HYFFORDDI’R HYFFORDDWR

Bydd CWVYS yn cynnig cwrs ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’, mewn partneriaeth â Choleg YMCA, ym mis Ionawr 2010. Mae’n gymhwyster City and Guilds – Preparing to Teach in the Lifelong Learning Sector (CG7303) ac mae’r cwrs yn cyflwyno myfyrwyr i’r materion sy’n rhan o ddysgu mewn sefydliad addysg ôl-orfodol, megis dysgu cymunedol. Mae ychydig o brofiad hyfforddiant blaenorol yn hanfodol.
Mae CWVYS hefyd yn dymuno mesur diddordeb yr aelodau mewn cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. Mae’r gymhwyster hon yn darparu pwynt dechreuol i ddysgwyr symud ymlaen ymhellach mewn hyfforddiant gwaith ieuenctid fel proffesiwn.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan, a phryd hynny bydd CWVYS yn gofyn am datganiadau o ddiddordeb o’i aelodau sy’n dymuno cyflwyno enwebiadau ar gyfer y ddau gwrs. 

Y trydydd sector yn cyfarfod a 'r Gweinidogion dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Roedd gan gynrychiolwyr mudiadau'r trydydd sector dair ar yr agenda i'w trafod a'r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (PADGOS), a'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, yn eu cyfarfod yn hydref 2008 - sef cynllunio ac ariannu dysgu anffurfiol yn y dyfodol, y cyfleoedd a gynigir gan Gemau Olympaidd 2012 ar gyfer cynyddu gweithgarwch corfforol yng Nghymru, a'r gyllideb ar gyfer 2009-10.
Mae copiau o'r holl bapurau a chofnodion y cyfarfodydd a'r gweinidogion ar gael yn:
 
 
Estyn 2010: Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Newidiadau Arfaethedig Estyn i Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru o 2010
 
Cliciwch ar y cyswllt hwn am ymgynhoriad Estyn ar drefniadau arolygu newydd arfaethedig ar gyfer pob sector o 2010.  Bydd nifer o ffyrdd y medrwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn – gan gynnwys cyfleoedd i ddweud beth yr ydych yn ei feddwl drwy’r cyswllt ar y safwe yma.
Manteisiwch ar y cyfle yma i gynnig eich barn i Estyn.
 
SHELTER CYMRU
Mae’r Pecyn hwn a ariennir gan LlCC  yn adnodd gwybodaeth  ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Mae’n darparu cyngor ar faterion yn ymwneud â phobl ifanc a thai. Mae’r adrannau’n cynnwys: llety brys a sut i ddod o hyd iddo, gadael cartref am y tro cyntaf, materion ariannol a sut i greu cyllideb effeithiol. Gellir lawrlwytho’r pecyn ar:
Arweiniad Cymru Gyfan ar Ymweliadau Addysgol
 
Yng ngeiriau Stephanie Price o Wobr Dug Caeredin:
 
Thema gref sy’n rhedeg trwy lawer o weithgareddau yw dysgu yn yr awyr agored. Mae ymweld ag ardaloedd newydd ac archwilio amgylcheddau newydd yn ehangu gorwelion pobl ifanc a gall gyfoethogi eu profiad o’u galluoedd a’u hanghenion eu hunain ac eraill.
Mae’r arweiniad newydd yn creu fframwaith newydd ar gyfer rheoli ymweliadau addysgol ar draws pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Yng Nghymru mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymgorffori ac yn disodli arweiniad blaenorol ar Iechyd a Diogelwch Disgyblion ar Ymweliadau Addysgol (HASPEV) a’r atodiadau i HASPEV wedi hynny.
Gyda mewnbwn o bob sector, mae’n adlewyrchu arfer da ym mhob math o ymweliad addysgol - ni waeth [wy sy’n darparu a phwy sy’n dysgu.
 
Cliciwch yma i weld yr arweiniad

Addysg dros Ddatblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ESDGC)
Ystyr ESDGC yw
• y cysylltiadau rhwng ein bywydau ein hunain a bywydau pobl ledled y byd 
• anghenion a hawliau cenedlaethau heddiw ac yfory
• y berthynas rhwng grym, adnoddau a hawliau dynol
• galluogi pobl ifanc i ddeall y grymoedd byd-eang sy’n llunio’u bywydau
• paratoi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau
• galluogi pobl ifanc i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol ac i ymdeimlo
I dderbyn copi o’r ddogfen newydd ar ESDGC ewch i
http://www.esdgc-wales.org.uk/english/youth_work/youth_work.htm
 
Dadl Cronfa’r Loteri Fawr
Rydym yn awr ar wythnos 5 o ymgynghoriad Y Farn Fawr.   Diolch i bawb sydd wedi ymuno â thrafodaeth y Gronfa Loteri Fawr hyd yn hyn yn www.YFarnFawr.org.uk  
Rydym yn parhau i fod eisiau clywed mwy am eich barn ar ble ddylai arian fynd yn y dyfodol, felly peidiwch â cholli’ch cyfle i gael dweud eich dweud - drwy un ai gwblhau’r arolwg ar lein heddiw www.YFarnFawr.org.uk  neu drwy ymuno â’r drafodaeth ar Facebook, Twitter, YouTube, UnLtdWorld neu Bebo.
Rydym eisiau gwybod sut ydych chi’n teimlo dylai Arian y Gronfa Loteri Fawr gael ei gyfeirio yn y blynyddoedd nesaf, felly cofiwch gymryd rhan.  

Ym mis Rhagfyr 2007, yng nghwmni ASau, ACau a llawer o gynrychiolwyr eraill o’r sector ieuenctid gwirfoddol, cynhaliodd CWVYS ddigwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd i ddathlu 60 mlynedd o CWVYS. Defnyddiwyd yr achlysur hwn i lansio llyfryn newydd ei gyhoeddi, a ysgrifennwyd gan CWVYS dan y teitl

60 Mlynedd o Wasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru
1947 - 2007
(O Gynhadledd Sefydlog i CWVYS)

Mae’n ymchwilio i esblygiad CWVYS a’r gwasanaeth ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru o 1944 - 2007. Mae’n cymryd i ystyriaeth fesurau a deddfau seneddol perthnasol, a’r ffactorau cymdeithasol a’r digwyddiadau sy’n effeithio ar y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’n llyfryn hanfodol i unrhyw un sy’n astudio’r sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru ;neu sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.

I ddarllen y llyfryn hwn ar-lein ewch i’n tudalen Cyhoeddiadau neu i archeb copi am ddim cysylltwch â ni
 
AWDURDOD DIOGELU ANNIBYNNOL: Cyhoeddi dyddiad cychwyn gwaith a ffioedd
Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y bydd angen o 12 Hydref 2009 i unigolion gofrestru gyda’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ADA) os ydynt am weithio neu wirfoddoli gyda phlant a/neu oedolion sy'n agored i niwed mewn gweithgareddau wedi'u reoleiddio. Bydd ffi o £64.00 yn daladwy unwaith yn unig er mwyn i unigolyn gofrestru gyda’r ADA. Bydd modd gwirio statws cofrestru ADA unigolyn ar-lein neu fel rhan o wiriad UCT Manylach.
Am y ddogfen lawn, gwelwch yr adran dogfennau ar waelod y dudalen.

TRAFODAETH AR STRATEGAETH DATBLYGU GWEITHLU CYMRU
Am fwy o wybodaeth am y drafodaeth ar Strategaeth Datblygu Gweithlu Cymru edrychwch ar y ddogfen isod.
 
Fframwaith Strategol Genedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol yng Nghymru
Lansiwyd hwn gan i Gweinidog Edwina Hart yng nghynhadledd Datblygu Cymunedol Cymru (DCC) ar Chwefror 16eg. Os hoffech gael copi, cysylltwch â swyddfa DCC ar 01686 627377 neu anfonwch e-bost at admin@cdc.cymru.org
 
Mae Adroddiad Blynyddol Cynllun y Sector Gwirfoddol 2004-2005 ar gael i’w darllen yma:
 
Gellir hefyd archebu copïau gan:
Cangen y Sector Gwirfoddol
Uned Adfywio Cymunedol a Chynhwysiant Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffon: 029 2082 5494
Facs: 029 2082 5045
 
Dringo’n Uwch – y Camau Nesaf’
Mae’r ddogfen yma yn gosod allan cynllun y Llywodraeth y Cynulliad am gario ymlaen y strategaeth am chwaraeon a ymarfer corf yng Nghymru.
*Mae’r ddogfen ar gael yma:
 
Cyfarwyddyd ar Arolygon gan Estyn
Mae’r Cyfarwyddyd newydd ar arolygu Gwasanaethau Ieuenctid (diwygiad Ebrill 06) bellach ar gael ar wefan Estyn a dyma a ddefnyddir o hyn allan.
 
* Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Betsan O'Connor, Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi, Estyn, Cwrt yr Angor, Keen Road, Caerdydd, CF24 5JW.
02920 446333
 

Cyngor Ieuenctid Prydain
Nod y safle newydd hwn yw helpu aelod-fudiadau a phobl ifanc i rannu gwybodaeth ac i hybu eu gwaith. Mae’n cynnwys cyfweliadau, e-fwletinau, trafodaethau a chyfleoedd.
 
 
Cyfleoedd i Dderbyn Grantiau Gwirfoddoli
Mae dau gynllun grantiau, a weinyddir gan CGGC, ar gael i annog pobl ifanc i wirfoddoli. Gweler y daflen isod am ragor o wybodaeth.
 

Ysgrif lawrlwytho: AWDURDOD DIOGELU ANNIBYNNOL Size: [36 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: NVYO Llythyr Size: [458 KB] File Type: [.doc]
GWIRVOL
Mae GwirVol yn bartneriaeth Cymreig, amrywiol sy’n hyrwyddo, cenfogi a llywio gwirfoddoli ieuenctid.
Mae GwirVol yn fenter sy’n cynnwys partneriaeth o’r sectorau gwirfoddol, cymunedol, preifat a chyhoeddus a’i harwain gan barnau pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r fenter yn bodoli i gymryd ymlaen argymhellion Comisiwn Russell a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
www.gwirvol.org