Cryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Isod gallwch ddod o hyd i adroddiad byr o’r negeseuon allweddol o ymgysylltiad diweddar Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru â phobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yng Nghymru

Roedd yn gyfle iddynt glywed barn pobl ifanc.
Cafodd ei hysbysu hefyd gan eu sesiynau Empower Hour diweddar.

Cryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Diweddariad gan Gangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru ar ymgysylltu â phobl ifanc a’r sector ieuenctid.
Yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan bobl ifanc

Ym mis Mai 2024, rhoesom gyfle i bobl ifanc rannu eu barn a’u profiadau am y gwasanaethau ieuenctid a’r gweithgareddau sydd ar gael iddynt yng Nghymru.

  • Darllenwch fwy amdano yma Gwaith Ieuenctid yng Nghymru Beth mae’n ei olygu i bobl ifanc? Mae dros 100 o bobl ifanc wedi ymateb hyd yma, trwy eu gwasanaeth ieuenctid, sefydliadau a grwpiau, ynghyd ag unigolion. Isod mae blas o’r negeseuon allweddol:
  • Dywedodd tua 50% o’r ymatebion fod ganddynt fynediad i glybiau ieuenctid a gwaith ieuenctid yn yr ysgol neu’r coleg megis clybiau amser cinio a chymorth unigol a grŵp. “Rwy’n cael llawer o gefnogaeth gan y staff”. “Rwyf bob amser yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnaf ac yn cael fy ngwerthfawrogi”. “Mae clwb ieuenctid yn fan diogel lle gallaf fod yn fi fy hun”.
  • Dywedodd tua 30% fod ganddynt fynediad i grwpiau Cymraeg, ffydd, elusennol, chwaraeon a chreadigol fel celf, cerddoriaeth a dawns yn eu hardaloedd lleol. “Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a phrofiadau mewn gwahanol feysydd.” “Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ers i mi ymuno â’r clwb”.
  • Soniodd llai nag 20% o’r ymatebion am fforymau, gofodau ar-lein, siopau gwybodaeth/galw heibio, teithiau a phrofiadau preswyl.
  • Soniodd llai na 10% o’r ymatebion am weithgareddau targedig ac arbenigol megis cwnsela, atal digartrefedd, gwirfoddoli a gweithgareddau blasu galwedigaethol.
  • Soniodd dros 50% o’r ymatebion am drafnidiaeth – costau teithio a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fel pethau sy’n atal neu’n ei gwneud hi’n anodd cael mynediad at ddarpariaeth gwaith ieuenctid.. “Weithiau methu cael lifft adra o ysgol os dydi tren ddim yn mynd”. “Anodd cal lift i clwb pan ma mam a dad yn gweithio”. “Dwi’n meddwl mae lot o tripia yn gallu bod yn drud”.
  • Roedd tua 30% o’r ymatebion yn nodi bod diffyg gwybodaeth a gwasanaethau lleol, natur wledig yr ardal a diffyg amser/ymrwymiadau eraill hefyd yn rhwystrau i fynediad. “Mae angen i fwy o bobl gael clywed am y cyfleoedd sydd i’w cael”. “nid oes ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael i ni fel pobl ifanc”.
  • Dywedodd tua 30% hefyd nad oedd “dim” yn eu hatal rhag cymryd rhan.
  • Soniodd llai nag 20% fod materion fel anabledd, gorbryder, oedran, wifi gwael a chymorth i rieni/teuluoedd yn rhwystrau iddynt gael mynediad at waith Ieuenctid
  • Dywedodd tua 40% o’r ymatebion fod mwy o fannau awyr agored a chyfleusterau megis chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant yn weithgareddau gwaith ieuenctid, gwasanaethau neu ddigwyddiadau y byddent yn eu hoffi neu eu hangen nad ydynt yn eu cael ar hyn o bryd. “Mwy o weithgareddau i bobl rhwng 18-25”. “Mwy o wasaneathau i bobl ifanc anabl a pobl hefo anghenion dysgu ychwanegol”.
  • Dywedodd mwy na 30% o’r ymatebion eu bod eisiau mwy o glybiau ieuenctid a mannau i fynd iddynt a chael mwy o oriau agor ar gyfer canolfannau cymunedol presennol. “Hoffwn clwbiau neu mwy o cyfleuoedd leol i siarad cymraeg”. “Hoffai’r Clwb Ieuenctid fod ar agor yn ystod gwyliau’r haf”.
  • Dywedodd llai nag 20% o’r ymatebion fod mannau digidol, allgymorth, preswyl a gweithgareddau mwy ataliol a rhai wedi’u targedu yn bethau yr hoffent gael mwy ohonynt megis gwirfoddoli, hyfforddiant a diogelwch cymunedol. “Fe ddylen ni gael Wi-Fi AM DDIM yn ein Clwb Ieuenctid / lleoedd rydyn ni’n cwrdd â nhw – mae WIFI i bobman yn ei ddisgwyl ar gyfer Clybiau Ieuenctid”.

Dywedodd tua 15% nad oeddent yn siŵr/ ddim yn gwybod ar gyfer pob cwestiwn.

Yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan y sector gwaith ieuenctid, partneriaid a rhanddeiliaid

Yn ystod mis Mai a mis Mehefin 2024, fe wnaethom hefyd gynnal ail gyfres o sesiynau ar-lein ‘Empower Hour’ a oedd yn canolbwyntio ar dri maes penodol ac a gynorthwyodd ein gwaith wrth ailddrafftio’r Cyfarwyddiadau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid statudol presennol a’r Canllawiau Ymestyn Hawliau i baratoi ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach. Eleni.

Darllenwch fwy amdano yma.

Mynychodd dros 70 o unigolion y sesiynau hyn, gyda thrafodaeth fanwl a rhai meddyliau wedi’u cyfleu gan jamfwrdd.

Isod mae crynodeb o’r negeseuon allweddol: Mewn perthynas â chynllunio strategol ar gyfer gwaith ieuenctid:

• Gall cynllunio hirdymor greu cysondeb, sail gyfartal a fframwaith symlach a chliriach yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau a’i angen. A all ysgogi mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.
• “Canolbwyntio ar gryfderau a chyfleoedd”. Mwy o bwyslais ac amddiffyniad i ddarpariaeth mynediad agored a mannau diogel – wedi’u hangori gan gyfranogiad pobl ifanc a’u darparu ar y cyd.
• A fyddai cynllun strategol yn diogelu cyllid gwaith ieuenctid ac yn hyrwyddo gwell gwasanaethau rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol? Sut gall hyn gryfhau a hyrwyddo rôl mudiadau ieuenctid gwirfoddol?
• “Gweledigaeth sefydlog ond hyblyg yn y daith” – gall ymagwedd gydweithredol a thryloyw amddiffyn a dod â’r sector ynghyd i gwmpasu dyfodol gwaith ieuenctid. Gorfod cymryd stoc a defnyddio’r hyn sydd yno’n barod ac yn barod i’w gyd-gyflawni.
• Gall cylch cynllunio hirdymor harneisio arloesedd a sicrhau newid mewn mannau lle mae ei angen. “Yn anochel, bydd y mater sylfaenol yn dibynnu ar gyllid”.
• Gallai ymgorffori gofynion cymwysterau fod dan anfantais neu ychwanegu at gymhlethdod cofrestru ar gyfer y rhai sy’n darparu gwasanaethau pwysig i bobl ifanc o’r sector gwirfoddol. Mewn perthynas ag atebolrwydd o fewn gwaith Ieuenctid
• Darparu dull cyson, tryloyw a strwythuredig ar draws y sector sy’n amlinellu cyfrifoldeb – yn enwedig i bobl ifanc.
• Gallai annog cydraddoldeb ar lefel strategol ac agor drysau i geisiadau ariannu mwy effeithiol a rhannu gwybodaeth – llwybrau eraill nad oedd ar gael o’r blaen.
• Yn gallu darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer mesur effaith a chanlyniadau ar gyfer pobl ifanc – a all alluogi llwybrau ar gyfer ymchwil ac ysgogi cydraddoldeb a safonau proffesiynol. Fodd bynnag, gallai fygu arloesedd os yw systemau a rhannu data yn gymhleth – yn cymryd llawer o amser ac yn amharu ar y ddarpariaeth/
• Gallai ychwanegu mwy o alw ar gapasiti a chyfyngu ar hyblygrwydd a dull gweithredu lleol ar gyfer anghenion lleol.
• Mae angen gwarchod a chefnogi pwysigrwydd a statws gwirfoddolwyr mewn gwaith ieuenctid o fewn y fframwaith. Cyfleoedd i flaenoriaethu ac adlewyrchu anghenion ar lefelau lleol.
Mewn perthynas â Phartneriaethau strategol ar gyfer gwaith Ieuenctid
• Gall cynllun strategol ddarparu’r strwythur ar gyfer adlewyrchu blaenoriaethau lleol mewn golwg hirdymor, yn hytrach na ffordd adweithiol tymor byr yn seiliedig ar broblemau.
• Mae rhannu data a gwybodaeth yn hanfodol i sicrhau y gall cynlluniau fod yn gynaliadwy, yn dryloyw ac yn gyraeddadwy – rhaid i bob partner gymryd rhan yn y broses a chael eu cefnogi’n sefydliadol ac yn wleidyddol. Hefyd yn ystyried y bydd rhai sefydliadau cenedlaethol yn gweithredu ar draws sawl ardal awdurdod lleol.
• Mae’n cymryd amser i berthnasoedd ddatblygu a sefydlu, rhaid i gynllun strategol adlewyrchu’r daith honno, a bydd momentwm a chynnydd yn amrywio ledled Cymru.
• A all deddfwriaeth gryfhau enghreifftiau allweddol o waith partneriaeth da a’u hyrwyddo’n gryfach? A fyddai’n hybu ac yn cymell ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth gan y sector a rhanddeiliaid i gyflawni’r nodau a nodir yn y cynllun?
• Cyfle i ddatblygu iaith gyson o fewn y sector – lleddfu terminoleg dechnegol a jargon sydd yn aml yn dieithrio ac yn lleihau cydweithio.

Bydd rhagor o fanylion am y camau nesaf yn cael eu rhannu yn fuan.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf Cofrestrwch ar gyfer y Bwletin Gwaith Ieuenctid yma

Dysgwch fwy ar y we llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

Dilynwch ni ar X (Trydar) @IeuenctidCymru

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024

Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, fod Wythnos Gwaith Ieuenctid yn digwydd wythnos ‘ma!

Tan 30fed o Mehefin, ymunwch â ni i ddathlu’r sector gwaith ieuenctid a dangos cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y sector yng Nghymru.
Mae thema ysbrydoledig eleni, “Pam Gwaith Ieuenctid?,” yn eich gwahodd i dynnu sylw at effaith anhygoel  gwaith ieuenctid.

Wythnos Gwaith Ieuenctid Hapus! Gobeithiwn eich bod wedi bod yn mwynhau eich hunain. Rwyf wedi mwynhau weld popeth mae pawb wedi bod yn ei wneud trwy’r gyfryngau cymdeithasol, diolch am ein tagio a defnyddio’r hashnodau #WythnosGwaithIeuenctid24 #PamGwaithIeuenctid

Here is a lovely short video about the importance of Youth Work from the Children’s Commissioner for Wales Rocio Cifuentes;

Peidiwch ag anghofio dal ati i dagio a dilyn @IeuenctidCymru ar twitter/x mae nhw wedi gael takeovers gwych ar eu sianel hyd yn hyn wythnos ‘ma 😊

Dilynnwch CWVYS ar Instagram hefyd, rydyn ni wedi bod yn casglu’r holl posts sy’n defnyddio’r hashnodau yn ein straeon.

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr wythnos a dathliadau eleni, neu unrhyw adborth, at  Manon@cwvys.org.uk 

 

 

Adnoddau Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024

Mae ond wythnos i fynd tan Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024!

Rhwng 23 a 30 Mehefin, ymunwch â ni ym mhopeth sydd yna i ddathlu’r sector gwaith ieuenctid a dangos cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y sector trwy sefydliadau, awdurdodau lleol, ymarferwyr, clybiau ieuenctid, arweinwyr, ac, wrth gwrs, pobl ifanc.

Mae thema ysbrydoledig eleni, “Pam Gwaith Ieuenctid?,” yn eich gwahodd i dynnu sylw at effaith anhygoel y sector gwaith ieuenctid, a gyda’r holl ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein, cewch gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a dathliadau drwy gydol y wythnos.

Yma gallwch ddod o hyd i’r *Pecyn Partner*, sy’n cynnwys;

  • Enghreifftiau o dempledi cyfryngau cymdeithasol
  • Nodiadau ar y thema ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024; ‘Pam Gwaith Ieuenctid?’
  • Yr holl hashnodau eleni gan gynnwys; #WythnosGwaithIeuenctid24
  • GIFs/sticeri
  • Negeseuon a awgrymir
  • Manylion cyswllt ar gyfer unrhyw gwestiynau.

Yma gallwch ddod o hyd i fideo yn dangos sut i ddefnyddio sticeri Wythnos Gwaith Ieuenctid ar Instagram;

Yma gallwch ddod o hyd i fideo yn dangos sut i ddefnyddio sticeri Wythnos Gwaith Ieuenctid ar Facebook, Twitter/X a Whatsapp;

Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’r holl dempledi *YMA*

A dyma’r Templedi Cyfryngau Cymdeithasol Cynnig Wythnos Gwaith Ieuenctid

Peidiwch anghofio am y ‘takeover’ ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd; https://www.cwvys.org.uk/takeover-cyfryngau-cymdeithasol-yn-ystod-wythnos-gwaith-ieuenctid/?lang=cy

Cwestiynnau i Manon@cwvys.org.uk 

 

Fforwm Preswyl i bobl ifanc 14 – 25 Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Fel rhan o’r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu gwaith ieuenctid yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am glywed gan bobl ifanc er mwyn deall yn well:-

  • sut mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru
  • darganfod arfer gorau ar gyfer cynnwys pobl ifanc
  • beth yw’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o’r prosesau gwneud penderfyniadau

I helpu gyda hyn, cynhelir ‘Fforwm’ preswyl ar Awst 20-22 yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn y Bala, gan ddod â chriw o 30 o bobl ifanc ynghyd i rannu eu barn a’u profiadau a helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid. yng Nghymru.

Dros y sesiwn breswyl tridiau, bydd cyfle i:

  • cymryd rhan mewn sesiynau trafod ar sut mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y prosesau gwneud penderfyniadau
  • beth yw cyfranogiad effeithiol?

Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac adloniant gyda’r nos.

Ni fydd cost i gymryd rhan a byddwn yn gwneud yr holl drefniadau cludiant angenrheidiol.

Cyfle i gwrdd â’r staff a fydd yn y Fforwm ac i gwrdd â chyd-aelodau’r Fforwm.

Sut i wneud cais

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y ‘Fforwm’? Os felly, gallwch wneud cais trwy’r ffurflen ar-lein https://forms.office.com/e/q4W2QGaqN1

Gallwch hefyd gyflwyno’ch cais ar gyfer fideo i fforwm@urdd.org  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 21Mehefin 2024.

Bydd angen i chi gadarnhau eich bod ar gael i fynychu ar y dyddiadau 20 Awst i 22 Awst.

Bydd cyfranogwyr Fforwm yn cael eu dewis i sicrhau eu bod yn adlewyrchu ystod mor eang o gefndiroedd, hunaniaeth a phrofiadau pobl ifanc yng Nghymru. Rydym hefyd yn chwilio am gyfranogwyr sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd yn ogystal â’r rhai nad sydd yn gysylltiedig a gwaith ieuenctid.

Cynhelir y Fforwm Preswyl yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae croeso i chi rannu ac os hoffech wybod mwy cysylltwch â catrinj@urdd.org

Fwletin Gwaith Ieuenctid nesaf

Mae Manon yn brysur gyda rhifyn nesaf y Fwletin Gwaith Ieuenctid gan y Llywodraeth Cymru

Os hoffech wybod mwy am y Bwletin, gan gynnwys sut i gyfrannu, cysylltwch â Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r Sector Ieuenctid yng Nghymru, Manon Williams, drwy Manon@cwvys.org.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnwys ar gyfer y rhifyn nesaf yw 17 Mehefin

Os hoffech dderbyn rhifynnau yn y dyfodol yn uniongyrchol gallwch danysgrifio yma: Tanysgrifio i gylchlythyr gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU

Mae Bwletin Gwaith Ieuenctid diweddaraf Llywodraeth Cymru bellach yn fyw ar y wefan. Gallwch ei weld yma: Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar Gael Nawr! (govdelivery.com)

Ar gyfer rhifynnau blaenorol o’r Bwletin gweler y dudalen hon: Cylchlythyrau gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU

Mae’r Fwletin ond yn un rhan o Raglen Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid gan Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 – 2025, sydd ar gael yma; Gwaith ieuenctid – rhaglen farchnata 2425 (dwyieithog)

Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod bod y tîm yn bwriadu datblygu rhwydwaith o Bencampwyr Gwaith Ieuenctid trwy gydol y flwyddyn i dynnu sylw at ragoriaeth arloesi, gan ehangu ar y thema ‘Pam Gwaith Ieuenctid?’. Os ydych yn gwybod am brosiect yr hoffech ei amlygu, cysylltwch â manon@cwvys.org.uk.

Hyrwyddwch eich gwaith yn ehangach yn ystod #WythnosGwaithIeuenctid

Cyrraedd mwy gyda’ch newyddion da yn ystod #WythnosGwaithIeuenctid24

 

Hoffech chi gael y cyfle i hyrwyddo eich gwaith i gynulleidfa ehangach? Oes gennych chi straeon Gwaith Ieuenctid positif yr hoffech eu rhannu yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni?

Gallech gymryd drosodd  facebook @YouthWorkinWales neu sianel twitter/x @IeuenctidCymru am ddiwrnod!

Rhwng 23 a 30 Mehefin maent yn gwahodd gwahanol gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i GYMRYD DROS eu sianeli.

Rhannwch eich straeon, eich profiadau, a’ch meddyliau ar pam mae gwaith ieuenctid yn bwysig. Sut mae wedi siapio eich bywyd? Pam ei fod yn bwysig i’n cymunedau?

Anfonwch e-bost at manon@cwvys.org.uk neu branwen@cwvys.org.uk os oes gennych ddiddordeb.

Rydym yn awyddus i weld eich straeon, syniadau a’ch barn!

Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr!

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr wedi dechrau!



Hoffwn rhannu’r asedau Wythnos y Gwirfoddolwyr eto; https://volunteersweek.org/get-involved/resources/

Mae’r mwyafrif o’r asedau yn dwyieithog y blwyddyn ‘ma, sy’n ardderchog. Mae’r cardiau diolch a’r tystysgrifau

Mae dydd Llun cyntaf Mehefin yn ddechrau Wythnos Gwirfoddolwyr, ac eleni mae’r wythnos yn 40 mlwydd oed!

Os ydych yn cymryd rhan ar gyfryngau cymdeithasol mae croeso i chi ein tagio ar twitter/X @CWVYS neu ar Instagram @cwvys_cymru

Amserlen 

Hoffem hefyd rannu amserlen o themâu pob dydd fel y gallwch ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf perthnasol. Mae’n werth tynnu sylw fod Diwrnod Pŵer Ieuenctid yn digwydd fory, ddydd Mawrth (4ydd Mehefin)  sy’n edrych ar werth pobl ifanc fel gwirfoddolwyr. Gallwch weld yr amserlen yma;

 

Gobeithio y cewch chi gyd wythnos hwyliog o ddathlu Gwirfoddolwyr a’r cyfan maen nhw’n ei wneud i’n sefydliadau a’n cymunedau 😊