Ystadegau Diweddaraf ar y Gweithlu Addysg yng Nghymru.

Ar Diwedd yr haf cyhoeddodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) Ystadegau Blynyddol Gweithlu Addysg Cymru.

Ystadegau Blynyddol Gweithlu Addysg Cymru 2024 y rheolydd annibynnol, proffesiynol yw’r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth am y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Daw’r data o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA.

Fel y gwyddoch efallai, ers rhai blynyddoedd bellach, bu’n ofynnol i weithwyr ieuenctid cymwysedig a staff cymorth gwaith ieuenctid gofrestru gyda CGA, ond am y tro cyntaf mae adroddiad eleni yn cynnwys gwybodaeth am athrawon a staff cymorth dysgu sy’n gweithio mewn ysgolion annibynnol a colegau. Yn dilyn gofyniad newydd gan y llywodraeth ym mis Mai 2023, gan ei gwneud yn hanfodol bod eu staff yn cofrestru gyda CGA, ac felly eu hymddygiad a’u hymarfer yn cael eu rheoleiddio.

Erys recriwtio effeithiol i’r proffesiynau addysg, a chadw’r ymarferwyr hyn wedi hynny, yn flaenoriaeth nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae niferoedd y gweithlu yng Nghymru wedi aros yn weddol sefydlog o gymharu â 2023, ond bu gostyngiad bach yn nifer y gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion.

Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg Cymru 2024 ar gael i’w ddarllen ar wefan CGA.

Digwyddiadau yn yr Hydref gyda Aelodau CWVYS

Mae yna rai digwyddiadau gwych ar y gweill yr hydref hwn gydag aelodau CWVYS.

Wythnos nesaf mae Urdd Gobaith Cymru yn dathlu 10 mlynedd o’u rhaglen brentisiaethau. Gyda 2 ddigwyddiad brecwast yn y gogledd a’r de!
Cynhelir y digwyddiad brecwast cyntaf ar y 24ain o Fedi yn Llandudno, ac mae’r ail yn Abertawe ar y 27ain o Fedi, os ydych yn bwriadu mynychu, cadarnhewch trwy’r ddolen hon HEDDIW (Medi 16fed).

Ar dydd Mercher y 25ain o Fedi mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn cynnal eu digwyddiad Cyfiawnder Hinsawdd yn Abertawe, gallwch chi archebu eich lle yma; https://www.eventbrite.co.uk/e/climate-justice-forum-tickets-1013157319817

Ar yr 22ain o Hydref mae Cymorth i Ferched Cymru yn cynnal digwyddiad ar Weithio ar y Cyd i Ddiogelu Plant a Phobl Ifanc. Gallwch archebu lle i fynychu eu digwyddiad rhad ac am ddim yma; https://www.eventbrite.co.uk/e/working-collaboratively-to-safeguard-children-young-people-tickets-978161506397?aff=oddtdtcreator

Ar y 14eg o Dachwedd mae gan NYAS Cymru ddigwyddiad yn y Senedd ar Effaith Eiriolaeth Rhieni. Darganfyddwch fwy ac archebwch i fynychu yma; https://www.eventbrite.com/e/impact-of-parent-advocacy-tickets-957295194697?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=cp&aff=ebdsshcopyurl

Os oes gan unrhyw Aelod arall o CWVYS unrhyw beth tebyg yr hoffech ei rhannu neu ei gynnwys yn ein cylchlythyr nesaf, anfonwch y manylion at Helen@CWVYS.org.uk erbyn canol dydd, dydd Llun y 23ain o Fedi

Gallwch ddod o hyd i fanylion y digwyddiadau hyn ar Galendr y Sector Ieuenctid a gynhelir ar ein gwefan; https://www.cwvys.org.uk/events/?lang=cy

Mae’r calendr ar gyfer y sector cyfan, felly gall aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau yn y sector fel ei gilydd ychwanegu eu digwyddiadau ato drwy anfon manylion at Helen@cwvys.org.uk