Hyfforddiant am ddim i Ymddiriedolwyr mewn lleoliadau Gwaith Ieuenctid


Mewn Partneriaeth gyda CWVYS, yn y flwyddyn newydd fydd Addysg Oedolion Cymru yn cynnig cyfle i cyfranogi mewn hyfforddiant di-archrededig, ar-lein, ar Rolau a Chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr yng ngosodiadau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Bydd y sesiynau yn cymryd lle ar Microsoft Teams rhwng 18yp – 19.30yp

15 Ionawr 2015 – Rolau a Chyfrifoldebau Ymddiriedolwr
12 Chwefror 2025 – Diogelu mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid
19 Mawrth 2025 – Cyfranogiad Pobl Ifanc

I ymuno anfonwch e-bost at: youthwork@adultlearning.wales

Wybodaeth yma hefyd; Trustee Training Hyfforddiant Ymddiriedolwyr CWVYS ALW

Gwasanaethau yn agored i atgyfeiriadau gyda Media Academy Cymru

Mae gan Media Academy Cymru nifer o wasanaethau yn agored i atgyfeiriadau ar hyn o bryd. Darganfyddwch fwy isod;

Rydym yn sefydliad ieuenctid sy’n gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed sy’n dreisgar/sydd â ffrwydradau treisgar neu sydd mewn perygl o arddangos ymddygiad treisgar, cario cyllyll neu ddefnyddio arfau, cael eu hecsbloetio, defnyddio iaith gyfeiliornus neu sy’n dreisgar tuag at rieni/gofalwyr.

Gweler y wybodaeth atodedig ynglŷn â Cerridwen ynghyd â throsolwg o weddill ein gwasanaethau a ffurflen atgyfeirio ar gyfer Caerdydd/Bro Morgannwg;

Ffurflen Atgyfeirio MAC Caerdydd V7.2

Gwybodaeth Cerridwen

MAC Trosolwg o wasanaethau 2024 Terfynol 16-7-24

Gall rhieni hefyd wneud hunangyfeiriadau ar ran eu plant.

Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech gymryd yr amser i ddarllen neu ymateb gan mai ein prif nod yw cefnogi plant agored i niwed cyn gynted â phosibl i leihau’r risg o ymddygiadau cynyddol a lleihau trais ledled Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â info@mediaacademycymru.wales.

Prosiect ymyrraeth ieuenctid GTADC MYFYRIO

Hoffai tîm ymyrraeth ieuenctid GTADC MYFYRIO gael eich help i gyrraedd mwy o bobl ifanc sydd wir yn elwa o’u hymyriadau. Isod gallwch ddysgu mwy ganddynt am eu prosiect MYFYRIO.

Oherwydd ein perthynas â chi’ch hun rydym wedi gallu tyfu ac esblygu’r prosiect MYFYRIO, gan weithio gyda dros 3000 o bobl ifanc y flwyddyn yn Ne Cymru.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad heriol neu fentrus ac rydym yn awyddus i symud ymlaen â’n gwaith ymyrraeth gynnar gyda’r bobl ifanc rydych chi’n ymgysylltu â nhw.

Trwy ymyriadau megis gweithdai, Ymladdwr Tân am Ddiwrnod, Ymladdwr Tân Stryd, defnyddio VR a hyd yn oed ymgysylltu trwy chwaraeon, gallwn ategu eich gwaith presennol gyda’r bobl ifanc hyn ac ychwanegu rhywbeth gwahanol o ran ymgysylltu.

Wrth i ni ddechrau cynllunio ein hymyriadau ar gyfer 2025, hoffem wneud yn siŵr eich bod yn achub y blaen ar yr hyn yr ydym eisoes yn rhagweld fydd yn flwyddyn newydd brysur yn gweithio gyda phobl ifanc.

Cliciwch ar y ddolen https://www.decymru-tan.gov.uk/ieuenctid-addysg/ymyriadau-ieuenctid/prosiect-myfyrio/ am ragolwg bach o’r hyn y gallwn ei gynnig o ran ymyrraeth ieuenctid yn ogystal â’r meini prawf a amlinellwyd yn y Pecyn Partneriaeth; MYFYRIO – Ymyriadau Ieuenctid

Cysylltwch a

MYFYRIO@decymru-tan.gov.uk