SWYDD WAG – SWYDDOG CYFATHREBU (DROS GYFNOD MAMOLAETH)

Ar hyn o bryd mae gan CWVYS swydd wag ar gyfer Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) (rhan amser, Cyflenwi Mamolaeth am flwyddyn)

Oriau gwaith:                                   24 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                              1 Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026                                                     

Cyflog:                                                £28,624 pro rata (£18,567 gwirioneddol)

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                  Gweithio gartref/hyblyg (mae’r swyddfa ym Mae Caerdydd)

 

Dymuna CWVYS recriwtio Swyddog Cyfathrebu rhan-amser, i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth deiliad presennol y swydd.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion cyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk  Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar 24 Ionawr 2025.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch am eich diddordeb.