Llwyddianwyr cynllun grant Sefydliad Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol (SVYWO)

Dyma restr o ymgeiswyr llwyddiannus i gynllun grant SVYWO;

Sefydliadau cenedlaethol:

Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
DofE
NYAS Cymru
ProMo Cymru
ScoutsCymru
St John Ambulance Cymru
Urdd Gobaith Cymru
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Youth Cymru

Sefydliadau arbenigol:

Canolfan Maerdy
YMCA Cardiff
Dr M’z
EYST Wales
STAND North Wales CIC
Swansea MAD
YMCA Swansea
West Rhyl Young People’s Project (Rhyl Youth gynt)

Sicrhewch eich bod wedi tanysgrifio i’r cylchlythyr gwaith ieuenctid er mwyn derbyn manylion am gyfleoedd ariannu tebyg i’r dyfodol.

Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar Ariannu Gwaith Ieuenctid

Adolygiad o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru – Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae gwaith ieuenctid yn rhan hanfodol o’r teulu addysg yng Nghymru. Gall gwaith ieuenctid helpu pobl ifanc i feithrin perthynas â chyfoedion ac oedolion dibynadwy, magu hyder a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, a gall roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas. Mae gwaith ieuenctid yn cael ei gynnig gan awdurdodau lleol ac ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, ac mae’r ddarpariaeth yn amrywiol iawn, yn dibynnu ar anghenion pobl ifanc o bob cefndir.

Wrth gwrs, mae angen adnoddau ar y gwasanaethau hyn er mwyn gallu darparu ar gyfer pobl ifanc, o ran staffio a chyllid.  Un o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro oedd cynnal adolygiad o’r cyllid sydd ar gael i’r sector gwaith ieuenctid. Ymgymrwyd â’r gwaith hwn mewn cydweithrediad â thri sefydliad addysg uwch ledled Cymru – Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Roedd tri cham i’r broses. Nod camau un a dau oedd sefydlu pa gyllid oedd ar gael i’r sector, sut mae’r cyllid hwnnw yn cael ei wario, a sut y gwneir penderfyniadau am gyllid. Mae’r adroddiad o gam 2 yn rhoi gwybodaeth a thystiolaeth gyfoethog inni ynghylch natur gymhleth cyllid gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at y gwaith hwn, gan gynnwys Grŵp Llywio’r Adolygiad o Gyllido Gwaith Ieuenctid, rhanddeiliaid o amrywiaeth eang o sefydliadau, yn ogystal â phobl ifanc.

Bwriad cam 3 yr adolygiad hwn oedd cynnal dadansoddiad cost a budd i helpu i ddangos effaith gwaith ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd diffyg tystiolaeth ddiweddar a chadarn o safbwynt Cymru yn benodol, ni fu’n bosibl cyflawni’r cam hwn o’r adolygiad yn y ffordd a ragwelwyd yn wreiddiol. Yn hytrach, yn ystod yr wythnosau nesaf, bwriedir cyhoeddi diweddariad ar y gwaith, gan roi manylion yr heriau a wynebwyd a meysydd lle gallai gwaith ymchwil pellach helpu i fynd i’r afael â rhai o’r bylchau hynny yn y dystiolaeth, a thynnu sylw at rywfaint o’r wybodaeth ansoddol werthfawr a gawsom gan y sector a phobl ifanc yn benodol.

Mae camau un a dau o’r adolygiad yn darparu argymhellion defnyddiol a phellgyrhaeddol yr wyf yn awyddus i’w harchwilio a’u cefnogi.

Mae fy ymatebion i’r argymhellion hyn i’w gweld ar *wefan y Llywodraeth Cymru yma*