Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.
Maen’t yn ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg. Mae Taith ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o leoliad addysg. Y sectorau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yw:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Addysg Uwch (yn cynnwys Addysg ac Ymchwil)
Mae aelodau CWVYS WCIA wedi cael arian o raglen Taith i gefnogi ymgeiswyr newydd, a’r rhai sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn flaenorol, i wneud cais am gyllid Llwybr 1 Taith ar gyfer prosiect rhyngwladol. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Michi drwy michaelarohmann@wcia.org.uk
Gallwch ddarganfod mwy am Lwybr 1 yma; https://www.taith.cymru/tudalen-ariannu/llwybr-1/adnoddau-cymorth-a-gweminarau/
Mae Llwybr 1 yn agor ar gyfer ceisiadau tan Mawrth y 27fed 2025.
Sesiwn gymorth Holi ac Ateb ar gyfer Llwybr 1 2025
Ar 5 Mawrth am 12.00 – 13.00 bydd Taith yn cynnal gweminar a fydd yn gyfle gwych i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau sydd gennych i dîm Taith am brosiectau Llwybr 1.
Cofrestrwch i fynychu
*YMA*
Eleni mae Taith yn lansio cynllun grantiau bach sy’n addo proses symlach ac sydd wedi’i hanelu at y rhai nad ydynt wedi gwneud cais o’r blaen;https://www.taith.cymru/news/mae-taith-yn-lansio-cynllun-grantiau-bach/
Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £60,000 o fewn y cynllun newydd hwn. I’r rhai sy’n dymuno gwneud cais am fwy na £60,000 (hyd at yr uchafswm sydd ar gael fesul sector) gallant wneud hynny drwy’r cynllun Grant Mawr.
Gall sefydliadau wneud cais am un opsiwn yn unig.
Mae gan y cynllun Grantiau Bach ffurflen gais fyrrach a symlach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu ag ymholiadau@taith.cymru neu michaelarohmann@wcia.org.uk