Yn ScoutsCymru rydym yn falch iawn o’r ffaith ein bod bob wythnos yng Nghymru, yn rhoi cyfle i dros 14,000 o bobl ifanc ledled Cymru fwynhau hwyl ac antur, wrth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo nawr, ac yn y dyfodol.
O abseilio a chodio i ddrama a zorbio dŵr, rydym yn annog ein pobl ifanc i wneud mwy, dysgu mwy a bod yn fwy.
Diolch i gefnogaeth dros 5,000 o wirfoddolwyr, rydym yn creu cymunedau cryfach yng Nghymru ac yn ysbrydoli dyfodol cadarnhaol i bobl Cymru.
Mae pobl ifanc y Sgowtiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen gyffrous o weithgareddau o gaiacio i godio. Maent yn datblygu sgiliau cymeriad fel gwytnwch, menter a dycnwch; sgiliau cyflogadwyedd fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a datrys problemau; a sgiliau ymarferol fel coginio a chymorth cyntaf. Ac mae ymchwil yn profi ei fod yn gweithio mewn gwirionedd. Dywed adroddiad yn 2018 fod Sgowtiaid 17% yn fwy tebygol o ddangos sgiliau arwain a gweithio’n dda mewn timau. Maen nhw draean yn fwy tebygol o gefnogi eu cymunedau hefyd.
Rydym yn cefnogi pobl ifanc rhwng 6 a 25 oed o bob rhyw, ethnigrwydd, cefndir a chymuned bob noson o’r wythnos.
Coronafeirws a’r Scouts:
Mae’r coronafeirws (Covid-19) yn bandemig byd-eang. Mae miloedd o bobl, yn hen ac ifanc, wedi marw, ac effeithiwyd ar filiynau. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod ni’r Sgowtiaid yn tynnu at ein gilydd, yn dangos gwerthoedd y Sgowtiaid ac yn cefnogi ein gilydd.
Pan fydd cyfarfodydd Sgowtiaid yn dechrau eto, mae’n bosibl y bydd gan bobl ifanc yn eich grŵp Sgowtiaid lawer o gwestiynau. Mae’n bwysig mynd i’r afael â’r hyn sydd wedi digwydd, sôn am unrhyw bryderon a chydnabod y gall pethau fod yn wahanol nawr, ond y bydd y Sgowtiaid yn parhau.