Yng Nghronfa Mullany, mae ein cred yn syml: y dylai pob person ifanc gael cyfle i gael mynediad at yrfa yn y sector gwyddor bywyd neu wyddoniaeth waeth beth fo’i gefndir.
Mae ein diffiniad o wyddorau bywyd yn eang, a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi ymgysylltu â channoedd o bobl ifanc ledled De Cymru, gan eu paru â mentoriaid proffesiynol a darparu cyfleoedd profiad gwaith a sgyrsiau gyrfaoedd yn yr ysgol ac ar-lein.
Mae ein prosiectau wedi’u hanelu at bobl ifanc 13-18 oed sy’n wynebu rhwystrau i ddilyniant mewn ymgais i wella eu rhwydwaith cymorth. Rydym yn targedu pobl ifanc yn benodol nad yw eu rhieni erioed wedi mynychu’r brifysgol; sydd yn y system ofal neu wedi bod yn y system ofal; sy’n derbyn prydau ysgol am ddim; a / neu sy’n byw mewn codau post WIMD penodol.
Mae pob sesiwn fentora yn para 8-10 wythnos, ac ar ôl i fentoriaid gael eu paru â myfyrwyr ar sail diddordebau a rennir, cânt eu tywys trwy gyfres o themâu cymorth sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo trafodaeth ac archwilio eu hopsiynau yn y dyfodol. Yn gyfan gwbl ar-lein, gellir cyrchu ein prosiect e-Fentora Mullany ble bynnag, pryd bynnag ac nid yw’n tynnu pobl ifanc o’r ystafell ddosbarth.
Rydym eisoes wedi gweld effaith sylweddol ar agweddau, dyheadau a hyder ein defnyddwyr gwasanaeth yn ystod Cam I a dechrau Cam II ein prosiectau sy’n gweithio i ddechrau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac wedi hynny ehangu i Merthyr Tudful, RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr.
Manylion unrhyw hyfforddiant a cynnigir:
Cyflwyniad i hyfforddiant e-Fentora Mullany
Hyfforddiant ymgysylltu â myfyrwyr