Yn ASH Cymru ein cenhadaeth yw cyflawni Cymru ddi-fwg trwy weithio ar gyfer polisi rheoli tybaco cryf. Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o iechyd, effeithiau cymdeithasol ac economaidd ysmygu trwy weithio gyda chymunedau, pobl ifanc a phartneriaid ledled Cymru. Rydym yn gweithio ar brosiectau, ymgyrchoedd a pholisi er mwyn sicrhau gostyngiad yn y problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag ysmygu a defnyddio tybaco, a chael gwared arnynt yn y pen draw.
Ein gweithgareddau allweddol
• Rydym yn cyfleu’r materion sy’n ymwneud ag ysmygu a defnyddio tybaco yng Nghymru
• Rydym yn adeiladu rhwydweithiau effeithiol o bartïon â diddordeb sy’n gweithio ym maes rheoli tybaco yng Nghymru
• Rydym yn darparu cefnogaeth ac eiriolaeth i unigolion a phrosiectau yn yr arena rheoli tybaco, ac i’r rhai nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol mewn polisi neu arfer iechyd y cyhoedd
• Rydym yn lobïo am fesurau iechyd y cyhoedd i ddiogelu iechyd pawb yng Nghymru rhag y niwed a achosir gan ysmygu a thybaco
• Rydym yn ymchwilio ac yn datblygu polisi a phrosiectau ym meysydd ysmygu a rheoli tybaco