Grymuso pobl ifanc i ddechrau eu prosiect gweithredu cymdeithasol eu hunain.
Ydych chi’n gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc neu unigolion sy’n edrych i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol i wella eu cymuned?
Cyflwynwch nhw i Brosiectau Undod fel y gallant wneud gwahaniaeth a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed!
Mae Prosiect Undod yn weithgaredd a arweinir gan ieuenctid o dan Gorfflu Undod Ewrop, lle gall grwpiau anffurfiol o leiaf bum person ifanc (18-30 oed) gael cyllid i redeg prosiect yn y DU, sy’n para rhwng dau a 12 mis. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau am gyllid yw 1 Hydref 2019 (11am amser y DU).
Pam cymryd rhan?
Mae Corfflu Undod Ewropeaidd yn cynnig profiadau dysgu i’ch sefydliad a’ch pobl ifanc.
Gall eich sefydliad rymuso pobl ifanc trwy roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau newydd wrth fynd i’r afael ag angen yn y gymuned neu’r gymdeithas. I bobl ifanc, mae’n gyfle i weithredu ar achos sy’n bwysig iddyn nhw ac ennill profiad a sgiliau gwerthfawr i wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae ymgeisio am gyllid Prosiectau Undod yn broses syml – nid oes angen partneriaid dramor nac achrediad blaenorol – a gall prosiectau fod yn rhan-amser. Cefnogir costau rheoli prosiect, hyfforddi a chymorth i gyfranogwyr sydd â llai o gyfleoedd yn y gweithgaredd hwn.
Taenwch y gair heddiw!
Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ein helpu i ledaenu’r gair ac annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn Prosiectau Undod.
Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y wefan Erasmus+ DU. Os oes gennych cwestiynnau, ofynnwch i ni neu Eurodesk DU.