Mae CDE Cymru yn edrych am eich barn ar gyfres o argymhellion i wella cymdeithas sifil yng Nghymru.

Datblygwyd yr argymhellion mewn digwyddiad a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Sefydliad Bevan, lle gwnaeth cynrychiolwyr gydgynhyrchu a phleidleisio ar ffyrdd i gryfhau cymdeithas sifil Cymru.

Canolbwyntiodd y digwyddiad ar rôl cymdeithas sifil yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf a’r heriau y mae wedi’u hwynebu o ran cyllid, cynrychiolaeth a’r gallu i bobl sy’n gweithio ledled Cymru ddylanwadu’n uniongyrchol ar Lywodraeth Cymru.

Mae’r argymhellion yn agored i gael sylwadau ar hyn o bryd ac mae CDE Cymru yn awyddus iawn i sicrhau yr ymgynghorir â nhw ledled y sector ieuenctid.

I ychwanegu eich barn naill ai ychwanegwch sylw at y *ddogfen* yn uniongyrchol, neu e-bostiwch Jess Blair ar Jessica.blair@electoral-reform.org.uk