Annwyl aelodau, rydym yn awyddus i rhannu wybodaeth o’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol gyda chi, yn enwedig sut i cymryd rhan yn eu waith:
1) Cymru Ein Dyfodol
Ar hyn o bryd maent yn trefnu sgwrs genedlaethol i helpu’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i drwytho ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020.
Dros y misoedd diwethaf maent wedi bod yn dysgu llawer yn y gweithdai am straeon personol, profiadau ac awgrymiadau diddorol. Beth bynnag, nid yw’r tasg o gasglu gwybodaeth yn dod i ben yma. Byddent wrth eu bodd pe baech yn cynnal sgwrs eich hun gyda’ch rhwydweithiau a rhanddeiliaid yn eich ardal. Wrth wneud hynny bydd y Comisiynydd yn gallu casglu syniadau arloesol a datrysiadau i problemau ar gyfer y dyfodol. Mae ffyrdd gwahanol o wneud hyn:
2) Syniadau Arloesol
Maen’t wedi lansio yn ddiweddar hymgyrch Syniadau Arloesol sy’n rhoi cyfle i chi rannu syniadau mawr. Efallai eich bod wedi gweld enghreifftiau o arfer da mewn gwledydd eraill neu rhywbeth rydych wedi ei dyfeisio neu rhywbeth arloesol yn eich cymuned. Hoffem sicrhau bod Cymru yn parhau i ddysgu ac yn dal y Syniadau Arloesol.
3) Llwyfan y Bobl
Byddent yn casglu eich straeon, profiadau ac awgrymiadau electronig (cymaint o weithiau ag yr hoffech chi) trwy Llwyfan y Bobl a gallwch gwblhau’r arolwg arlein nawr. Os hoffech chi chwarae rhan fwy yn y brosiect hon a wnewch chi gwblhau’r ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb. Hoffent gynnwys cymaint o sefydliadau ac unigolion ag yn bosib sy’n gallu helpu’r Comisiynydd ehangu eu cefnog, yn arbennig i’r rhai yn ein cymunedau y maent yn cael eu chlywed yn anaml.
4) Trefnwch eich digwyddiadau eich hun
Byddent wrth eu boddau pe baech yn cynnal eich digwyddiadau eich hun, ac i helpu chi i wneud hyn mae’r Comsiynydd wedi paratoi pecyn offer ac adnoddau y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich digwyddiadau eich hun neu mewn cyfarfodydd neu sgwrsiau arferol.
Croeso i chi rannu’r wybodaeth uchod gyda’ch rhwydweithiau, cydweithwyr a chyfeillion.