Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, 18 Mai 2020 – Stopio’r Cloc ac Ailddechrau
Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn unigryw i Gymru, ac wedi ei danfon yn flynyddol ers 98 o flynyddoedd – dyma’r unig neges o’i fath yn y byd.
Gofynnaf am eich cefnogaeth i helpu pobl ifanc Cymru ar y 18fed o Fai i wneud hon y neges fwyaf mewn hanes.
Bydd y neges yn cael ei chyhoeddi o gyfrifon cymdeithasol Urdd Gobaith Cymru ar ddydd Llun y 18fed o Fai ac rydym yn gofyn i chi wneud o leiaf 1 o’r 3 peth canlynol:
- Aildrydarwch / postio y neges ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar yr 18fed o Fai gyda
· Emoji baner eich gwlad chi / Emoji y byd / Eich hoff Emoji ac #heddwch2020
- Paratowch ymateb i’n neges ni – gall hyn fod yn lun/geiriad /gair o gefnogaeth /lluniau / fideo /can gan ddefnyddio #heddwch2020 neu ei ebostio at heddwch@urdd.org
- Anogwch eich ffrindiau a chysylltiadau ar draws y byd i ymateb
Helpwch yr Urdd
Helpwch Gymru
Helpwch ein Pobl ifanc ………………. i gyrraedd 15 miliwn o bobl mewn 50 o wledydd ar draws y byd yn 2020!
Eisiau mwy o fanylion e-bostiwch – heddwch@urdd.org