Os hoffech chi ymuno â CWVYS e-bostiwch Amanda@cwvys.org.uk i gael mwy o wybodaeth a phecyn cais aelodaeth.
Yn ddiweddar rydym wedi newid ein proses ymgeisio ac yn gobeithio y gallai fod yn llai beichus, ac yn fwy unol â’r ffyrdd o weithio yn sefydliadau prysur yn y sector ieuenctid gwirfoddol.
Mae aelodau CWVYS yn cael mynediad am ddim i sesiynau hyfforddi Achrededig gan Agored Cymru gyda Addysg Oedolion Cymru ochr yn ochr â’r buddion a roddir o fod yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ieuenctid, o sefydliadau cenedlaethol mawr i glybiau ieuenctid bach lleol, yn ogystal â’n cysylltiadau â Asiantaeth Gwybodaeth Ieuenctid a Chynghori Ewropeaidd (ERYICA) a gan fod ni yw’r unig bartneriaid Cymreig Eurodesk DU.
Mae tîm y DU yn rhan o rwydwaith Ewropeaidd ehangach gyda chynrychiolwyr cenedlaethol mewn 36 o wledydd. Mae Eurodesk UK wedi sefydlu rhwydwaith o bartneriaid i gefnogi cyflwyno a hyrwyddo gwasanaethau Eurodesk yn y DU.
Rydym hefyd wedi annog nifer o Weithwyr Ieuenctid yng Nghymru i fynychu cyrsiau hyfforddi yn Ewrop lle gall cyfranogwyr ddysgu am wahanol agweddau ar waith a chydweithrediad ieuenctid rhyngwladol, a dod o hyd i’w darpar bartneriaid prosiect eu hunain. Rydym yn anfon e-byst wythnosol gyda newyddion penodol i’r sector Ieuenctid / gwirfoddol, diweddariadau polisi Llywodraeth Cymru, ymchwil, ymgynghoriadau agored, ac wrth gwrs yn rhannu unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau y mae ein haelodau eisiau inni eu rhannu gyda’r