Yn fis Mawrth 2010, nodwyd aelodau’r CWVYS bod ‘eu gwaith yn bwysig ac yn werthfawr ac maent yn dymuno sefydlu safonau proffesiynol ar draws y sector ieuenctid gwirfoddol sydd yn cael ei adnabod’.
Ers Ebrill 2013, mae Marc Ansawdd CWVYS ar gyfer Datblygu’r Gweithlu wedi cael ei ddatblygu i adlewyrchu ymrwymiad gweithredol sefydliad i addysgu a datblygu ei weithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn unol â strategaethau a pholisïau cydnabyddedig gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Bydd Marc Ansawdd CWVYS yn adlewyrchu ymrwymiad gweithredol sefydliad i addysgu a datblygu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn unol â strategaethau a pholisïau cydnabyddedig gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Bydd yn caniatáu i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, cyflogwyr a chyllidwyr i deimlo’n hyderus bod y sefydliad yn deall ac yn ymwybodol o ymarfer da, a sut i’w fesur â’i gynnal.
Mae’r Marc Ansawdd wedi’i sefydlu ar 5 egwyddor allweddol:-
- Strategaethau cenedlaethol yn tanategu’r gwasanaethau sy’n cael eu trosglwyddo gan sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol – Polisi ac Ymarfer Gwaith Ieuenctid
- Arddangos ymrwymiad i ddatblygiad sefydliadol trwy ddatblygu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr – Strategaeth Dysgu
- Mae dysgu yn agored i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr – Dysgu a Datblygiad
- Mae pwysigrwydd dysgu a datblygiad yn cael ei adnabod a’i ddathlu – Adnabyddiaeth
- Mae safonau dysgu a datblygiad yn cael eu hadolygu a’u gwella’n barhaol – Monitro a Rheolaeth Perfformiad
Bydd Marc Ansawdd CWVYS yn cael ei wobrwyo i sefydliadau sydd yn bodloni’r Datganiadau Ansawdd yn y Fframwaith Asesu. Wrth gwblhau ffurflen hunan asesu a darparu’r dystiolaeth foddhaol i aseswr annibynnol, bydd sefydliadau yn cael eu gwobrwyo gyda’r Marc Ansawdd.
Ble nad oes digon o dystiolaeth i arddangos y safonau gofynnir, bydd cynllun gweithredu awgrymedig yn cael ei ddarparu i gefnogi’r sefydliad yn ei ailgyflwyniad, ynghyd â graddfa amser awgrymedig.
Mae Marc Ansawdd CWVYS wedi cael ei ddatblygu yn baralel â Marc Ansawdd y Gwasanaeth Ieuenctid wedi’i ddatblygu gan ETS Cymru (Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru), i sicrhau bod y ddau marc ansawdd yn ategu ei gilydd ac yn addas i’w defnyddio yn y sector gwaith ieuenctid. Am fanylion pellach am Farc Ansawdd Gwasanaeth Ieuenctid ETS Cymru ymwelwch yma.
Dyma’r Datganiadau Ansawdd o fewn pob un o’r 5 egwyddor allweddol.
Polisi ac Ymarfer Gwaith Ieuenctid
- Mae’r sefydliad yn ymwybodol o’r polisïau a strategaethau cenedlaethol allweddol sy’n ymwneud â’u darpariaeth o Waith Ieuenctid
- Mae polisïau Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Allweddol yn cael eu gweithredu ar draws y sefydliadau yn nyluniad a throsglwyddiad o’r ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid
- Mae yna berson cyfrifol o fewn y sefydliad ar gyfer adolygiadau rheolaidd o’r defnydd o bolisi Gwaith Ieuenctid
Strategaeth Dysgu
- Adnoddau mewn lle ar gyfer dysgu a datblygu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr
- Anghenion dysgu unigol yn cael eu hadnabod yn rheolaidd gan y sefydliad
- Anghenion dysgu penodol ar gyfer y gwasanaeth yn cael eu hadolygu yn rheolaidd gan y sefydliad
- Mae yna berson sydd yn gyfrifol am oruchwilio gweithgareddau dysgu a datblygiad
Dysgu a Datblygiad
- Mae’r sefydliad yn darparu gwybodaeth ac anogaeth i gael mynediad i ddysgu i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr.
- Cyfleoedd ar gael i bawb gael mynediad i raglenni dysgu achrededig
- Mae holl wirfoddolwr, ymddiriedolwyr a gweithwyr yn ymwybodol o’r dilyniant ym mhroffesiwn Gwaith Ieuenctid
- Mae yna raglen anwytho gynhwysol wedi’i sefydlu i holl wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr
- Mae rhaglenni dysgu wedi cael eu cwblhau’n llwyddiannus gan wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff
- Mae adnoddau dysgu yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan holl ddefnyddwyr y sefydliad
Adnabyddiaeth
- Mae yna systemau wedi’u sefydlu i gofnodi ac adnabod ymarfer da sydd yn digwydd o fewn y sefydliad
- Mae cyflawniad gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr yn cael ei gydnabod a’i ddathlu
Monitro a Rheolaeth Perfformiad
- Mae yna ddulliau mewn lle ar gyfer y sefydliad i fonitro a gwerthuso ei weithgareddau dysgu a datblygiad
- Mae yna ddulliau mewn lle i ddangos bod adborth dysgu a datblygiad yn cael ei weithredu arno
- Mae yna ddulliau mewn lle i’r sefydliad fonitro a gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth i bobl ifanc
- Mae mewnbwn yn cael ei gasglu gan bobl ifanc am sut maent yn profi’r ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid
- Mae’r effaith o ddysgu o fewn y sefydliad yn cael ei adnabod
Meini Prawf Llwyddiant
Bydd sefydliadau yn cael eu gwobrwyo gyda Marc Ansawdd pan fydd o leiaf 16 (80%) o’r Datganiadau Ansawdd efo digon o dystiolaeth eu bod wedi cyfarfod neu ragori’r safonau gofynnol gyda’r ardaloedd eraill wedi’u categoreiddio fel ‘Datblygol’.
Proses gwneud cais am y Marc Ansawdd CWVYS
I fynegi diddordeb cysylltwch â CWVYS ar admin@cwvys.org.uk
Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach cysylltwch â’r Swyddog Hyfforddiant a Datblygu – catrin@cwvys.org.uk