Ein gweledigaeth yw cymuned sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd meddwl da i bawb, ac sy’n ymateb i bobl sy’n cael eu heffeithio gan drallod meddwl yn deg, yn gadarnhaol ac â pharch. Mae anghenion a phrofiadau pobl y mae trallod meddwl yn effeithio arnynt yn gyrru ein gwaith ac rydym yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed gan y rhai sy’n dylanwadu ar newid.
Rydym yn darparu gwybodaeth ac yn cefnogi ac yn datblygu gwasanaethau lleol i bobl y mae trallod meddwl yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys cymorth tenantiaeth un i un, cefnogaeth lles, gwasanaethau hunangymorth dan arweiniad, gwasanaethau cymorth cymheiriaid, a gwasanaethau i famau newydd.