Neges gan gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am newidiadau deddfwriaethol;
O 21 Mawrth, 2022, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Cynhaliwyd ymgyrchh Stopio Cosbi Corfforol ar ddydd Mawrth 21 Medi, gan nodi ‘chwe mis i fynd’ cyn i’r gyfraith ddod i rym.
Fel rhan o’r ‘lansiad mawr’ rydym yn cyhoeddi hysbysebion teledu, radio, digidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yma mae dolen i’n pecyn partner sy’n
cynnwys adnoddau ar gyfer eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ein cefnogi i godiymwybyddiaeth am y newid yn y gyfraith.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus,
Nia Jones
Uwch-reolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Deddfwriaeth
Llywodraeth Cymru