Wedi ei gydlynu gan Robert Burton, gweithiwr ieuenctid cymwysedig a rheolwr gyda dros 35 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid sy’n seiliedig ar ffydd, ac 16 mlynedd mewn gwaith ieuenctid statudol ac agenda genedlaethol 6 blynedd ’trwy hyfforddi gweithwyr ieuenctid ledled Cymru drwy’r sector gwirfoddol.
Mae’r Rhwydwaith yn bodoli i gefnogi gweithwyr ieuenctid Cristnogol, ysbrydoli rhagoriaeth wrth ddarparu ac i gynnig hyfforddiant ac adnoddau o ansawdd uchel i weithwyr ieuenctid yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru. Hyrwyddo gwaith ieuenctid Cristnogol, arweinwyr a gweithwyr.
Rhesymeg y rhwydwaith yw cefnogi’r arweinwyr ieuenctid a’r gweithwyr ar lawr gwlad o amrywiaeth o safbwyntiau a lleoliadau, gan arfogi, ysbrydoli, adeiladu ymdeimlad o dîm ac undod ag amrywiaeth. Dull proffesiynol sy’n cynnig mewnwelediad a syniadau ymarferol a chefnogaeth ar gyfer yr heriau sy’n eu hwynebu yn eu cymunedau. Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth.
Manylion hyfforddiant:
- Adeiladu gweledigaeth / Creu Diwylliant
- Creu tîm o safon / Buddsoddi mewn eraill a Chymhelliant
- Datblygu arweinyddiaeth a Rhinweddau Gweithiwr Ieuenctid
- Goruchwyliaeth Broffesiynol
- Ffiniau Proffesiynol a Rheoli Amser
- Rheoli ymddygiad heriol
- Gwaith grwp
- Cynllunio a darparu gweithdai effeithiol
- Rhedeg cyngherddau gweddi
- Cynllunio rhaglenni / Rheoli Digwyddiadau
- Sicrwydd Ansawdd – gwaith papur
- Ymarfer Myfyriol
- Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol
- Allgymorth a gwaith ieuenctid ar wahân
- Technegau Ymgynghori a Gwerthuso,
- Gwaith Ieuenctid Cristnogol – Disgyblu a Mentora pobl ifanc ac arweinwyr
- Diogelu mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid
- Sut i ddysgu pobl ifanc mewn lleoliad sy’n seiliedig ar Ffydd