Mae prosiect newydd a chyffrous i Fapio a Gwerthuso’r Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru wedi’i lansio!
Prosiect KESS – Mae Mapio a Gwerthuso Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Cymru yn brosiect Meistr yn ôl Ymchwil a gynhelir gan Brifysgol De Cymru ac a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop mewn partneriaeth â CWVYS. Nod yr ymchwil yw gwneud y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn fwy gweladwy a sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Efallai eich bod yn ymwybodol nad oes digon o ymchwil a gwerth i’r sector gwirfoddol o’i gymharu â gwasanaethau statudol, sy’n cynnal archwiliad bob blwyddyn. Gobeithiwn y gall ein hymchwil newid hyn.
I wneud hynny, byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad at ein harolwg byr ar-lein. Os ydych yn fudiad sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, dilynwch y ddolen isod i’r arolwg sy’n syml yn nodi natur eich mudiad a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc. Ni ddylai cwblhau’r arolwg gymryd mwy na 15 munud. Gwerthfawrogir eich amser a’ch sylwadau yn fawr.
I gychwyn yr arolwg, dilynwch y dolenni isod:
Arolwg yn Saesneg: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapping-and-evaluating-the-voluntary-youth-work-sector-for-7
Arolwg yn Gymraeg: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapio-a-gwerthuso-sector-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-cymru
Mae hefyd tudalen Facebook ar gyfer y prosiect; https://www.facebook.com/MappingYouthWorkinWales
Gofynnir ichi hefyd rannu dolen a gwybodaeth yr arolwg ymhlith eich rhwydweithiau (e.e. drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol) – po fwyaf o ymatebion a gawn, y gorau y gallwn gynrychioli profiadau’r sector cyfan a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.
Fe gewch ragor o wybodaeth am y prosiect ar ddechrau’r arolwg, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â’r ymchwilydd drwy e-bost: Elizabeth.bacon@southwales.ac.uk
Gallwch hefyd dilyn y waith yma ar y cyfryngau cymdeithasol canlynol;
- Facebook: https://www.facebook.com/MappingYouthWorkinWales
- Twitter: https://twitter.com/WorkinWales
- Instagram: https://www.instagram.com/mappingyouthworkinwales/
Diolch ymlaen llaw am eich mewnbwn. Gyda’ch cymorth, rwy’n gobeithio y gallwn ni gyflawni’r newid a’r gynrychiolaeth sydd eu hangen ar y sector.
Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.