SWYDDOG CYFATHREBU (DROS GYFNOD MAMOLAETH) (DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG) 2023/24
Oriau gwaith: 24 yr wythnos
Hyd y cytundeb: 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024
Cyflog: £26,845 pro rata (£17,413 gwirioneddol)
Yn atebol i: Prif Weithredwr CWVYS
Man Gweithio: Gweithio gartref/hyblyg (mae’r swyddfa ym Mae Caerdydd)
Dymuna CWVYS recriwtio Swyddog Cyfathrebu rhan-amser, i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth deiliad presennol y swydd.
Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion cyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Efallai y bydd disgwyl i chi ymweld a’n Swyddfa ym Mae Caerdydd o bryd i’w gilydd ond swydd gweithio o gartref yw hon ac mae’r dewis o ddiwrnodau gwaith (Llun – Gwener) yn hyblyg.
Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk
Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.
Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.
Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar 10 Chwefror 2023.
Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.
Diolch o flaen llaw am eich diddordeb.