Ynglŷn â’r Cod
Mae Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg (‘y Cod’) yn cyflwyno’r safonau disgwyliedig ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru gyda ni a bwriedir iddo gefnogi a llywio’u hymddygiad a’u crebwyll fel gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn swyddi addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Daeth fersiwn ddiweddaraf y Cod i rym ar 1 Medi 2022 (diweddarwyed ym mis Tachwedd 2023 i ddangos ein bod wedi ychwanegu categorïau newydd).
Mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal pum egwyddor allweddol y Cod:
- Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
- Unplygrwydd Proffesiynol
- Cydweithio
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
- Dysgu Proffesiynol
Darllen y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Dogfennau ategol
Rydym wedi cynhyrchu posteri i’w harddangos yn eich lleoliad:
Poster i’w arddangos yn ystafell y staff
Poster i’w arddangos yn gyhoeddus
Heyfd, mae cyfres o ganllawiau arfer da, sy’n cynorthwyo cofrestreion i gydymffurfio â’r Cod. Maent yn rhoi mwy o gyngor i gofrestreion ar eu hymarfer o ddydd i ddydd.
Mae ein canllaw i rieni yn darparu gwybodaeth a chyngor i rieni am ein gwasanaethau ac maent yn eu helpu i chwarae rhan fwy gweithgar yn addysg eu plant.