Heddiw mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi amlinellu’r camau nesa i ddatblygu argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro gyda’r nod o sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae modd darllen mwy yma.
Ymuna yn y sgwrs
Diolch i bawb sydd wedi bwydo mewn i’r gwaith hwn hyd yma. Bydd y dull cydweithredol a fabwysiadwyd i lywio datblygiad y gwaith hwn yn parhau i fod yn hanfodol yn ystod y cam nesaf hwn, o dan gyngor y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a’i Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu, yn ogystal â phartneriaid eraill.
Dechreuodd cyfres o sesiynau ‘galw heibio’ Yr Awr Fawr ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid ar 11 Rhagfyr. Mae’r rhain wedi ymdrin ag amrywiaeth o themâu, gan gynnwys dull gweithredu yn seiliedig ar hawliau, diffiniadau a swyddogaethau gwaith ieuenctid, ac arweinyddiaeth a phartneriaethau. Bydd yr ymgysylltu hwn yn parhau yn y flwyddyn newydd, gyda chyfleoedd i unigolion ledled y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt i fod yn rhan o’r sgwrs. Bydd manylion pellach yn cael eu rhannu yn fuan.