Cynhaliwyd cyfres o sesiynau galw heibio ‘Yr Awr Fawr’ ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid ym mis Rhagfyr 2023 i gyflwyno’r dull arfaethedig o gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan adeiladu ar
ddatganiad diweddar Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Daeth dros 70 o bobl i’r sesiynau, ac roedd hynny wedi’n galluogi i ddechrau casglu ystod eang o safbwyntiau ac enghreifftiau o arfer da, gan gynnwys mewn perthynas â dulliau seiliedig ar hawliau, ac enghreifftiau arloesol o arwain a gweithio mewn partneriaeth. Cafwyd adborth gwerthfawr hefyd am feysydd y mae angen eu hystyried ymhellach, gan gynnwys cryfderau a gwendidau gwahanol ddiffiniadau o waith ieuenctid a sut y cânt eu cymhwyso, yr her o gydbwyso darpariaeth gyffredinol a’r ddarpariaeth sydd wedi ei thargedu, pa mor eglur yw’r rolau a therminoleg, a’r angen i godi mwy o ymwybyddiaeth mewn sectorau eraill y tu allan i waith ieuenctid, ac effaith hynny.
Y prif negeseuon
-
- “Cychwyn o’r cychwyn” – mae gwaith ieuenctid wedi colli ei wreiddiau a’i hunaniaeth mewn perthynas â bod yn wasanaeth cyffredinol ac yn hawl i bob person ifanc.
-
- Angen clir am iaith symlach a mwy disgrifiadol i wahaniaethu rhwng gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymorth ehangach fel bod pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd yn deall hyn yn haws.
-
- Dylid cyflwyno hawliau mewn ffordd naturiol a grymusol ac ar draws pob maes addysg – nid mewn modd haearnaidd a biwrocrataidd.
-
- Mae gwaith ieuenctid yn aml yn cael ei ystyried yn ddatrysiad ataliol ac nid fel ffurf deilwng ac effeithiol o addysg.
-
- Mae ymarfer gwaith ieuenctid a diffiniadau/dealltwriaeth yn cael eu hysgogi gan newidiadau cymdeithasol, bylchau mewn gwasanaethau a straen gyllidebol – ac nid gan yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau neu ei angen.
-
- Mae dathlu gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid yn helpu i godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r sector a’i effaith.
-
- Nid oes cydbwysedd bob amser rhwng darpariaeth wedi’i thargedu a darpariaeth gyffredinol, ond mae’r ddau yn bwysig ac yn dibynnu ar ei gilydd.
-
- Mae gwaith ieuenctid yn canolbwyntio ar gyfleoedd, ond yn aml mae cyllid yn canolbwyntio ar broblemau.
-
- Mae iaith sy’n seiliedig ar gyfleoedd yn fwy deniadol a chyffrous i bobl ifanc.
-
- Mae mynediad at wasanaethau yn cael ei ysgogi gan atgyfeiriadau, yn cymryd llawer o amser ac yn gostus.
-
- Mae gweithwyr ieuenctid yn aml yn cael eu hystyried yn arbenigwyr wrth greu a chynnal perthynas â phobl ifanc a gallant fod yn esiamplau ar gyfer gwasanaethau eraill.
-
- Mae angen gwneud mwy i gau’r bwlch rhwng gwaith ieuenctid a sectorau eraill ac annog gweithwyr ieuenctid i ddylanwadu a llywio meysydd polisi sy’n effeithio ar bobl ifanc.
-
- Mae angen eglurder ar atebolrwydd er mwyn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau lywodraethu gwaith ieuenctid yn effeithiol ac i weithwyr ieuenctid gefnogi pobl ifanc i gymryd rhan.
Yn ystod cam nesaf yr ymgysylltu, byddwn yn trafod gydag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a rhanddeiliaid allweddol eraill i edrych yn fanylach ar rai o’r materion a nodwyd uchod a phynciau eraill. Bydd rhagor o wybodaeth ar y prif negeseuon o’r cam hwn yn cael ei rannu maes o law.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r sgwrs, ond heb gael y cyfle eto, cysylltwch â
GwaithIeuenctid@llyw.cymru