Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio | LLYW.CYMRU
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
FFURFLEN AR-LEIN
Mae ffurflen ymateb hawdd ei ddeall hefyd ar gael.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn newydd o’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Bydd y strategaeth yn disodli’r strategaeth flaenorol Siarad â fi 2.
Rydym hefyd yn gofyn am farn ar fersiwn ddrafft newydd o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.
Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i’w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r ymgyngoriadau.
I ofyn am becyn ymgysylltu i oedolion, cysylltwch â mentalhealthandvulnerablegroups@llyw.cymru.