Cenhadaeth Llamau yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a digartrefedd i fenywod yng Nghymru. Credwn na ddylai neb fyth orfod profi digartrefedd a chredwn fod angen atebion penodol i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a menywod.

Cafodd Llamau ei sefydlu bron i 40 mlynedd yn ôl i ddarparu lle diogel i bobl ifanc ddigartref aros. Ers hynny, rydym wedi cefnogi dros 100000 o bobl ifanc a menywod sy’n wynebu digartrefedd. Rydym yn gweithio ledled Cymru i atal digartrefedd cyn iddo ddigwydd, darparu llety diogel a chefnogi pobl i wneud digartrefedd yn brin, yn fyr ac yn anghylchol. Y llynedd buom yn gweithio gyda 10,000 o bobl ifanc, menywod a phlant.