Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru
15 Ebrill 2024, 1-3pm
Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Datblygu’r Gweithlu, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’, rydym ni, fel GCG, yn cydnabod yr angen i ddeall yn well pan fydd angen gwaith pellach i helpu ddatblygu’r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol i greu gweithlu medrus iawn sydd yn gallu bodloni anghenion cymhleth a chyfnewidiol cynyddol pobl ifanc ledled Cymru.
Fel sydd yn wir i’r mwyafrif o broffesiynau, mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a chadw Gweithwyr Ieuenctid. Mae aelodau’r GCG yn ymdrechu i ddatblygu strategaethau sydd yn mynd i’r adael â’r materion yma. Yn y gweminar yma, cewch glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill a chewch gyfle i ofyn cwestiynau a chynnig syniadau.
Bydd y gweminar yn cynnwys:
· Cipolwg ar waith yr GCG
· Sesiynau ymgysylltu cynulleidfa ar:
– Ydy’r model cyflenwi gweithlu presennol yn addas i’w ddiben?
– Ble gellir dyrannu cyllid datblygu’r gweithlu?
– Sut gallwn ni hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel opsiwn gyrfa?
Gobeithio y gallech ymuno â am sgwrs ddifyr dros gyfnod o ddwy awr gydag aelodau’r GCG – os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi o flaen llaw wrth i chi gadw eich lle.
Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:
Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent – Cadeirydd GCG Datblygu’r Gweithlu
Steve Drowley, Cadeirydd ETS Cymru Wales
Emma Chivers, Ymgynghorydd Gwaith Ieuenctid
Darryl White, Swyddog Datblygu’r Gweithlu
Donna Robins, Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru
Mae croeso i bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.
Cofrestrwch am ddim heddiw – https://lu.ma/lmkr04fv
Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael.