Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Gweminar GCG: Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol

June 24 @ 10:00 am - 12:00 pm

Gweminar: Creu cysylltiadau cryfach rhwng Gwaith Ieuenctid a rhannau eraill o’r system Addysg

​Cyflwynir y gweminar hon gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol (GCGTChS), un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

​Roedd un o’r argymhellion yn yr adroddiad ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’ yn canolbwyntio ar rôl y partneriaethau darparu rhanbarthol i gefnogi darpariaeth leol. Er mwyn cefnogi cynnydd yn y maes yma, mae rhwydwaith o gynrychiolwyr o’r sector gwaith ieuenctid wedi mynegi diddordeb i weithio’n agosach gyda’r Sector Addysg a’u Grwpiau Plant a Phobl Ifanc i greu gwell dealltwriaeth o anghenion pobl ifanc, sut mae gwasanaethau yn ymateb i’r anghenion yma yn bresennol, ac adnabod cyfleoedd i feithrin cysylltiadau pellach rhwng gwasanaethau.

​Rydym yn awyddus i ddeall yn well y pethau da sydd yn digwydd ar draws Cymru a helpu llywio sut mae’r argymhelliad yma ac agweddau eraill o’n gwaith, fel y gwaith cysylltiedig gyda Byrddau Partneriaeth Ranbarthol (BPRh), yn cael ei ddatblygu.

​Yn y gweminar yma, byddem yn amlygu’r pwysigrwydd o waith Ieuenctid ac addysg yn gweithio law yn llaw ac yn cynnwys enghreifftiau o arferion da gan weithwyr proffesiynol yn y sector. Byddem hefyd yn rhannu i ystafelloedd trafod llai i edrych ar gyfleoedd rhwng y gwasanaethau ieuenctid a’r sector addysg yng Nghymru yn y dyfodol ac yn defnyddio mapio siwrne ac astudiaethau achos.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:

  • ​Deb Austin – Cadeirydd y GCGTChS
  • ​Sian Tomos – Is-gadeirydd y GCGTChS
  • ​Millie Boswell – Arweinydd Gweithredu NYTH / NEST Llywodraeth Cymru
  • ​Kirsty Williams – Cadeirydd BPRh Powys ac Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • ​Emma Chivers – Cynghorydd Gwaith Ieuenctid i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (AGAA)
  • ​Mark Isherwood – Cyfarwyddwr ar Gyfer Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrhau Ansawdd, AGAA

​Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma. Cofrestrwch am ddim heddiw.

Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael ar y dydd.

Cofrestrwch yma; https://lu.ma/q58l332s

Details

Date:
June 24
Time:
10:00 am - 12:00 pm