Mae’r Gweinidog Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar y fframwaith strategol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r cynigion hyn yn benllanw trafodaeth ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn dilyn ymlaen o waith ac argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar strategaeth newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, yn ogystal â gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid  a’i wahanol Grwpiau Gweithredu Cyfranogiad (IPGs).

Ceisir barn yn awr gan ymarferwyr yn y Sector Ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys y Sector Ieuenctid Gwirfoddol yn ogystal â’r rhai sy’n eiriol dros y canlyniadau gorau i bobl ifanc.

Bydd gan bobl tan 10 Ionawr 2025 i gyflwyno eu hymatebion.