Hoffai tîm ymyrraeth ieuenctid GTADC MYFYRIO gael eich help i gyrraedd mwy o bobl ifanc sydd wir yn elwa o’u hymyriadau. Isod gallwch ddysgu mwy ganddynt am eu prosiect MYFYRIO.

Oherwydd ein perthynas â chi’ch hun rydym wedi gallu tyfu ac esblygu’r prosiect MYFYRIO, gan weithio gyda dros 3000 o bobl ifanc y flwyddyn yn Ne Cymru.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad heriol neu fentrus ac rydym yn awyddus i symud ymlaen â’n gwaith ymyrraeth gynnar gyda’r bobl ifanc rydych chi’n ymgysylltu â nhw.

Trwy ymyriadau megis gweithdai, Ymladdwr Tân am Ddiwrnod, Ymladdwr Tân Stryd, defnyddio VR a hyd yn oed ymgysylltu trwy chwaraeon, gallwn ategu eich gwaith presennol gyda’r bobl ifanc hyn ac ychwanegu rhywbeth gwahanol o ran ymgysylltu.

Wrth i ni ddechrau cynllunio ein hymyriadau ar gyfer 2025, hoffem wneud yn siŵr eich bod yn achub y blaen ar yr hyn yr ydym eisoes yn rhagweld fydd yn flwyddyn newydd brysur yn gweithio gyda phobl ifanc.

Cliciwch ar y ddolen https://www.decymru-tan.gov.uk/ieuenctid-addysg/ymyriadau-ieuenctid/prosiect-myfyrio/ am ragolwg bach o’r hyn y gallwn ei gynnig o ran ymyrraeth ieuenctid yn ogystal â’r meini prawf a amlinellwyd yn y Pecyn Partneriaeth; MYFYRIO – Ymyriadau Ieuenctid

Cysylltwch a

MYFYRIO@decymru-tan.gov.uk