Annwyl gyfeillion,
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Hoffem ddeall sut mae gan blant a phobl ifanc sy’n niwroamrywiol, sydd ag anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu, yn gallu manteisio ar bob agwedd ar addysg a gofal plant.
Yn benodol:
- I ba raddau y mae plant a dysgwyr yn gallu cael mynediad at bob rhan o ddarpariaeth gofal plant ac addysg ar hyn o bryd, gan gynnwys sut y caiff y cwricwlwm ei addysgu, yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol.
- I ba raddau y mae plant a phobl ifanc wedi’u heithrio o agweddau penodol ar addysg neu ofal plant oherwydd eu hanabledd neu niwrowahaniaeth.
- I ba raddau y mae teuluoedd a phlant yn teimlo bod gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol neu wahaniaethu yn seiliedig ar anabledd wedi effeithio arnynt.
- Effaith unrhyw ddiffyg mynediad neu fynediad cyfyngedig ar iechyd meddwl a llesiant plentyn neu berson ifanc, yn ogystal ag ar ganlyniadau addysgol.
- Y rhwystrau sy’n atal ysgolion a darparwyr gofal plant rhag cynnig darpariaeth hygyrch.
- I ba raddau yr ymgynghorir â phlant anabl a phlant niwrowahanol a’u teuluoedd o ran y dewisiadau addysg neu ofal plant sydd ar gael iddynt, ac i ba raddau y maent yn cael eu hysbysu ynghylch y dewisiadau hynny.
- A yw rhieni plant anabl a phlant niwrowahanol, a’r plant eu hunain, yn cael gwybodaeth a chymorth effeithiol gan awdurdodau lleol ac ysgolion.
- A oes gan blant anabl a phlant niwrowahanol, a rhieni’r plant hyn, yr un lefel o ddewis â phlant a rhieni eraill, a pha faterion sy’n effeithio ar y dewis sydd ar gael o ran ysgol neu ofal plant.
- I ba raddau y mae’r ddarpariaeth ar gyfer plant sydd â gwahanol fathau o anableddau yn ddigonol.
Sut i rannu eich sylwadau
Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno sylwadau ar gael ar y dudalen ymgynghori.
Rydym am sicrhau ein bod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl. Rydym yn agored i’ch syniadau ynghylch sut yr hoffech rannu eich sylwadau â ni. Mae croeso ichi gysylltu â ni ac yna gallwn gael sgwrs am y ffordd orau ichi gymryd rhan.
Rydym hefyd am glywed gennych os ydych yn teimlo ein bod wedi creu unrhyw rwystrau diofal sy’n eich atal rhag cymryd rhan.
Rydym am wneud yn siŵr ein bod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, ac os nad yw hyn yn digwydd, rydym am glywed sut y gallwn newid ein trefniadau.
Dear colleagues,
The Children, Young People and Education Committee is conducting an inquiry into childcare and education access for disabled children and young people and the extent to which childcare providers, schools and local authorities meet their duties under the Equality Act 2010.
We would like to understand how children and young people who are neurodivergent, have physical, sensory or learning disabilities are able to access all aspects of education and childcare.
In particular:
- The extent to which children and learners are currently able to access all parts of childcare and education provision, including the way in which the curriculum is taught and extra-curricular activities.
- The extent to which children and young people have been excluded from aspects of education or childcare due to their disability or neurodivergence.
- The extent to which families and children feel that they have been affected by direct, indirect or discrimination arising from disability.
- The impact of any lack of or limited access on a child or young person’s mental health and well-being and educational outcomes.
- The barriers for schools and childcare providers in offering accessible provision
- How well disabled and neurodivergent children and their families are consulted or informed of the choices in education or childcare available to them.
- Whether parents of disabled and neurodivergent children and the children themselves receive effective information and support from local authorities and schools
- Whether disabled and neurodivergent children and parents of disabled and neurodivergent children have the same level of choice as other children and parents and what issues affect choice or school or childcare.
- The extent to which there is adequate provision for children with different types of disabilities.
How to share your views
The Committee has launched a consultation, further information on how to submit is available on the consultation page.
We want to make sure that we are being as inclusive and accessible as possible. We are open to your ideas about how you would like to share your views with us. Please contact us and we can have a chat about the best way for you to get involved.
We also want to hear from you if you feel we have created any inadvertent barriers to you being involved.
We want to make sure we are being as inclusive and accessible as possible, and if this isn’t happening, we want to hear how we can change this.