Pecynnau llesiant i oedolion a phobl ifanc
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn awr yn cynnig eu Pecynnau llesiant am ddim yn Gymraeg. Mae’r pecynnau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, o gydnerthedd i feithrin cysylltiadau a rheoli straen, ac maent yn llawn gweithgareddau i ddatblygu sgiliau ymdopi. Gallwch lwytho copïau i lawr yma.
Efallai bydd gennych chi ddiddordeb hefyd yn eu gweithgareddau llesiant ar-lein, eu hadnoddau addysgu a’u gweithdai am ddim. Darperir y rhain yn Saesneg, ac mae gweithdai ar gael ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb mewn rhai ardaloedd.
Mae ‘Mynd i’r afael ag unigrwydd’ yn gyfle i siarad yn agored am unigrwydd a dysgu sgiliau i adnabod a chefnogi’r rheini sy’n teimlo’n unig. Mae ‘Addasu ac adfer’ yn canolbwyntio ar feithrin gwytnwch. Mae’n gyfle i bwyso a mesur heriau a nodi sgiliau ymarferol ac emosiynol sy’n helpu wrth wynebu argyfwng. Mae ‘Ymdopi â heriau’ yn weithdy ar gyfer grwpiau o bobl ifanc 10-19 oed, sy’n cynnig fframwaith meithrin gwytnwch i’w helpu i ymdopi â heriau bob dydd.
Mae’r holl adnoddau llesiant hyn yn cael eu darparu drwy bartneriaeth y Groes Goch Brydeinig ag Aviva.