Cyhoeddodd Estyn eu Hadolygiad o Weithwyr Arweiniol Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ym mis Gorffennaf. Mae’r adolygiad yn cynnwys 5 argymhelliad, sy’n argymhellion ar y cyd, ar gyfer Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol a’r holl bartneriaid eraill sy’n ymwneud â chefnogi pobl ifanc drwy weithwyr arweiniol.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad yn awr wedi cael ei gyhoeddi. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i symud ymlaen efo’r argymhellion.