Mae’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael OBE YH OStJ PC FRSA wedi cytuno i gymryd rôl Llywydd CWVYS ar unwaith.

Mae gan Alun yrfa hir o wasanaeth cyhoeddus, bu’n Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref ac yn 1997 cyflwynodd Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, Timau Troseddau Ieuenctid a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Bu’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1998 a 1999 ac yna fel Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru (a adwaenid yn ddiweddarach fel Prif Weinidog) ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 1999 a 2000.
Yn fwyaf diweddar bu’n gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru rhwng 2012 a 2024.

Drwy gydol ei yrfa mae wedi bod yn eiriolwr dros blant a phobl ifanc, ac mae wedi’i gofnodi fel cefnogwr ers tro dros bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed, a hyd yn oed ar un adeg yn awgrymu y dylai pobl ifanc 14 oed bleidleisio a chael eu cyflwyno i’r system ddemocrataidd tra’n parhau i gael eu cefnogi mewn addysg.

Ers ymddeol o’i swydd gyhoeddus mae Alun wedi dod yn Llysgennad dros Gweithredu dros Blant ac mae’n gefnogwr brwd o’u gwaith i fynd i’r afael â chamfanteisio’n droseddol ar blant.

Rydym yn croesawu’r wybodaeth a’r ymroddiad y bydd Alun yn dod i’w rôl fel ein Llywydd newydd, croeso cynnes i ti Alun!