CANLLAWIAU AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD

Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddablygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Bydd y canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (DAHY), gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Gallwch ddod o hyd i’r Canllawiau yma: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru

GYNHADLEDD GENEDLAETHOL GWAITH IEUENCTID 2020

Mae’r Gynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid eleni wedi’i datblygu gan Grŵp Marchnata a Cyfathrebu Gwaith Ieuenctid.

Mae wedi’i anelu’n bendant at ymarferwyr gwaith ieuenctid. Bydd cyfle i chi glywed yn uniongyrchol gan y Gweinidog Addysg, a fydd yn sôn am ei blaenoriaethau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Bydd Keith Towler yn rhoi diweddariad ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Yn bennaf oll, mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio i gefnogi eich dysgu proffesiynol ac i roi cyfle i chi rwydweithio.  

Gweler yr agenda a’r crynodebau o’r sesiynau *yma*

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddosbarthu’r gwahoddiad i’ch cydweithwyr os gwelwch yn dda.  

Cofrestrwch drwy Eventbrite

OSGOI TRASIEDI: ATAL HUNANLADDIAD YMHLITH PLANT A PHOBL IFANC CYMRU

Mae lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: (ACE), atal camddefnyddio alcohol a sylweddau, a gwella cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn rhai ffyrdd allweddol o helpu i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc Cymru.

Mae adolygiad newydd, a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn trafod marwolaethau’r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru a fu farw drwy hunanladdiad rhwng 2013 a 2017. Nodwyd nifer o themâu a ddylai fod yn dargedau ar gyfer atal y trychinebau ofnadwy hyn yn y dyfodol.

Ceir tystiolaeth o bob rhan o’r DU o gynnydd yn nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad ymhlith pobl ifanc ers 2010. Gan gyfuno nifer o ffynonellau, ceisiodd yr adolygiad nodi’r ffactorau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad ymhlith pobl ifanc 10-18 oed yng Nghymru. 

Mae’r adolygiad yn trafod 33 o achosion o blant a phobl ifanc a gymerodd eu bywydau eu hunain. Roedd rhai o’r materion a oedd yn gysylltiedig â’r hunanladdiadau hyn yn cynnwys camddefnyddio sylweddau; tlodi; cam-drin ac ymosod rhywiol; profedigaeth; cywilydd; anawsterau mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; a diffyg ymwybyddiaeth ynghylch hunan-niwed.

Mae’r adolygiad yn nodi mai anaml y ceir un rheswm pam y mae plentyn neu berson ifanc yn cymryd ei fywyd ei hun. Mae fel arfer oherwydd amrywiaeth o ffactorau risg, amgylchiadau a phrofiadau niweidiol. Er gwaethaf hyn, mae’n bosibl atal hunanladdiad. 

Mae’r adolygiad yn nodi chwe chyfle allweddol i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  1.  Atal camddefnyddio alcohol a sylweddau.  Gan gynnwys camau gweithredu parhaus i gyfyngu ar fynediad plant a phobl ifanc i alcohol, ynghyd â gweithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn llawn i atal camddefnyddio sylweddau.
  2.  Lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Gan gynnwys ymyriadau parhaus i blant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel cam-drin rhywiol, ymosodiadau rhywiol neu drais domestig. Dylai hyn hefyd gynnwys mwy o ymgysylltu â byrddau diogelu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amddiffyn plant rhag effeithiau trais domestig a cham-drin rhywiol i atal hunanladdiad a hunan-niwed.
  3.  Rheoli hunan-niwed.  Gan gynnwys gweithredu canllawiau NICE ar gyfer rheoli hunan-niwed sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn llawn.
  4.  Codi oedran cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gan gynnwys ymchwilio i ddulliau cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yn cael eu cefnogi mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; gan gynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith.
  5.  Rhannu gwybodaeth yn well. Gan gynnwys ymchwilio i sut y gall gwybodaeth gael ei rhannu rhwng lleoliadau addysg nad ydynt yn rhai’r wladwriaeth, fel ysgolion preifat, a gwasanaethau’r wladwriaeth.
  6.  Gwell gwybodaeth am hunan-niwed a ffactorau risg eraill ar gyfer hunanladdiad ac ymwybyddiaeth o hyn. Gan gynnwys archwilio ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth o gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hunan-niwed a ffactorau risg eraill ar gyfer hunanladdiad, cynllunio diogelwch, cymorth i geisio gwasanaethau a chael mynediad iddynt, yn ogystal â mynd i’r afael â stigma.

Mwy o wybodaeth yma: https://icc.gig.cymru/newyddion/newyddion/osgoi-trasiedi-atal-hunanladdiad-ymhlith-plant-a-phobl-ifanc-cymru/

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL STADIWM Y MILENIWM

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar agor i dderbyn ceisiadau gan Grwpiau LLEOL am gyllid.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm drwy gytundeb rhwng Stadiwm y Mileniwm a Chomisiwn y Mileniwm a chaiff ei hincwm ei gynhyrchu drwy ardoll ar bob tocyn gaiff ei brynu gan bobl sy’n mynychu digwyddiadau cyhoeddus yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i gyfoethogi ansawdd bywyd mewn cymunedau yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn prosiectau ysbrydoledig chwaraeon, celfyddydol, amgylcheddol ac wedi’u seilio yn y gymuned a fydd yn cael effaith hirdymor ar y bobl sy’n buddio.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni hyn trwy ddosbarthu grantiau i sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ledled Cymru.

Y dyddiad cau i dderbyn Ceisiadau Lleol yw canol dydd ar y 10.01.2020.  Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yr wythnos yn cychwyn y 19.03.2020

Gall ymgeiswyr wneud cais am grant i fyny at £2,500.00 ble fydd cylch gorchwyl y prosiect yn gwasanaethu’u cymuned neu dref leol.

Ewch i’r wefan am fanylion ac i lawrlwytho ffurflen gais: http://www.millenniumstadiumtrust.co.uk

Am ymholiadau yn ymwneud â’r rownd hon cysylltwch â Sarah Fox yn FoxSE Consultancy trwy ffonio 029 20 022 143 neu e-bostio sarah@foxseconsultancy.co.uk neu msct@foxseconsultancy.co.uk

CYMWYS AR GYFER Y DYFODOL

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio Cymwys ar gyfer y Dyfodol, eu ymgynghoriad sy’n edrych ar y cymwysterau sydd eisiau am y cwricwlwm newydd.

Eu gweledigaeth yw bod pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn cymryd cymwysterau uchel eu parch sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith – ac mae’nt yn awyddus i wybod beth yw eich barn chi.

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth wrth dilyn y ddolen isod:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol/

PLEIDLEISIAU YN 16

Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth Pleidleisiau yn 16 yr wythnos diwethaf fe ysgrifennon ni erthygl am y newyddion mawr ar Borth Ieuenctid Ewrop!

Mae’r Mesur Senedd ac Etholiadau yn cynnig:

  • gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad;
  • newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Cymru’
  • darparu ar gyfer Aelodau i gael eu galw’n ‘Aelodau’r Senedd ’;
  • ymestyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymwys.

Pleidleisiodd 41 o’r 60 Aelod Cynulliad o blaid y Bil, sef y newid mwyaf i broses ddemocrataidd Cymru mewn 60 mlynedd, pan ostyngwyd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ym 1959.

Mae’r newid anhygoel hwn yn golygu y bydd 70,000 o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael y bleidlais o 2021 a hefyd yn rhoi hawliau pleidleisio i 33,000 o wladolion tramor! Mae hefyd yn golygu y bydd ein cynulliad yn cael ei ailenwi’n Senedd Cymru o’r 6ed o Fai 2020 fel rhan o’r newidiadau.

Cefnogodd Llafur, gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y mesur, ond roedd y Ceidwadwyr a’r Blaid Brexit yn ei wrthwynebu.

Wrth sôn am y penderfyniad pwysig, dywedodd y Llywydd Elin Jones:

“Pleidlais oedd hon i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd trwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed – cam sydd, i rai, yn hen bryd.

Bydd y Bil hwn, yn fy marn i, yn creu Senedd fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, a bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Un a fydd yn rhoi enw i’n deddfwrfa sy’n adlewyrchiad cywir o’i statws cyfansoddiadol ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Ac un a fydd yn dod ag egni newydd i’n proses ddemocrataidd.

Rwy’n falch bod Cymru wedi cymryd y cam pwysig hwn i gryfhau sylfeini ein democratiaeth seneddol, cam y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch inni amdano. “

I ni fel sefydliad sy’n cynrychioli’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru rydym wrth ein bodd â’r penderfyniad i gynnig llais uniongyrchol i fwy o bobl ifanc yn eu dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am waith diwygio’r Cynulliad, ewch i: www.assembly.wales/AssemblyReform

DIGWYDDIAD YMWYBYDDIAETH AC YMGYSYLLTU (GOGLEDD CYMRU) AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD

Digwyddiad ymwybyddiaeth ac ymgysylltu (Gogledd Cymru) ar gyfer sefydliadau a all helpu gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru

Fe’ch gwahoddir i fynychu gweithdy i’ch diweddaru am ddatblygiad cwricwlwm drafft newydd Cymru 2022 ac i ystyried sut y gall sefydliadau eraill gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i glywed am enghreifftiau o arferion da. Rhannwch y gwahoddiad gyda’ch rhwydwaith ehangach.

Cynhelir y gweithdy yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno, LL30 1AP ar 11 Rhagfyr 2019, bydd yn dechrau am 10:00am ac yn gorffen am 14:00pm.

Cofrestrwch yma https://www.eventbrite.co.uk/e/organisations-who-can-support-delivery-of-the-new-curriculum-in-wales-tickets-82010747353

CYNHADLEDD GENEDLAETHOL GWAITH IEUENCTID 2020 NODWCH Y DYDDIAD!

Rydym yn falch o gyhoeddi’r Gynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid:

Pryd: 4 MAWRTH 2020
Ble: STADIWM DINAS CAERDYDD
Pwy: YMARFERWYR GWAITH IEUENCTID

Sylwer: NODYN AR GYFER Y DYDDIADUR yw hwn.

Bydd manylion pellach am y digwyddiad, gan gynnwys yr amserlen a’r cynnwys (a sut i archebu’ch lle), yn cael eu rhyddhau yn y man.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

NATIONAL CO-ORDINATOR POST FOR SUICIDE AND SELF-HARM PREVENTION

Mae swydd y Cydlynydd Cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad ac hunan-niweidio bellach yn cael ei hysbysebu tan 11 Rhagfyr, 2019.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddechrau mis Ionawr.

Mae hwn yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad Everybody’s Business a bydd yn cynorthwyo i yrru gweithrediad y cynlluniau gweithredu cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio o dan y strategaeth genedlaethol Talk to Me 2.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn penodi 3 arweinydd rhanbarthol yn y flwyddyn newydd i gefnogi’r fforymau rhanbarthol gyda’u gwaith.

* Yma gallwch ddod o hyd i’r Disgrifiad Swydd *

Dosbarthwch yn eang ac anogwch gydweithwyr i * wneud cais yma *

YMYRIAD ANSAWDD RHAGLEN IEUENCTID – CYD-DESTUN POLISI AC YMARFER

*Cliciwch yma* am ddogfennau a baratowyd gan bob gwlad yn y DU ar gyfer y Ganolfan Effaith Ieuenctid.
Mae CCGIG wedi datblygu cysylltiadau agos â’r CEI ac ar hyn o bryd mae ganddym 6 o’n aelodau yn ymgymryd â’r YPQI fel rhan o’r peilot cyntaf yng Nghymru. Bydd chwech arall yn ymgymryd â’r rhaglen yn 2020 a chwech arall yn 2021.
Ysgriffennodd CCGIG y papur ar gyfer Cymru, gallwch ddod o hyd i’r papur *yma*