Eurodesk: cipolwg yn 30 story

Cenhadaeth Eurodesk yw helpu pobl ifanc i brofi’r byd.

Mae ymgysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc – a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw yn y sector ieuenctid – yn allweddol i hyn.

Fel y gwyddoch, mae CWVYS wedi bod yn bartneriaid i Eurodesk UK ers nifer o flynyddoedd, gan rannu a hyrwyddo straeon cadarnhaol gan bobl ifanc yma yng Nghymru a’u cyfoedion ledled Ewrop.

Os ydych yn mwynhau’r mathau hyn o straeon newyddion, rhyddhaodd Eurodesk UK eu cyhoeddiad newydd yn ddiweddar ‘Eurodesk: cipolwg yn 30 story’.

Mae’r ystod o brofiadau’n cynnwys chwe maes pwnc:

Dweud eich dweud
Astudio
Teithio
Gwirfoddolwr
Gwaith
Gwaith ieuenctid

O leoliadau gwirfoddoli i astudio ar gyfer semester dramor, mae gan bawb brofiad unigryw a stori i’w hadrodd, nid yn unig ar yr hyn a wnaethant ond sut yr effeithiodd arnynt yn bersonol.

Gallwch eu mwynhau ymahttps://www.eurodesk.org.uk/resource/eurodesk-snapshot-30-stories

Hystings CWVYS

Bydd CWVYS yn cynnal digwyddiad hysting ar-lein ddydd Iau 28 Ionawr 2021 rhwng 6.00pm – 8.00pm.

Cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, bydd CWVYS yn cynnal digwyddiad hysting ar-lein i’w Aelod-sefydliadau ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Cyhoeddir manylion y cynrychiolwyr hynny yn fuan.

Fodd bynnag, rydym yn falch iawn o gadarnhau mai Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru, fydd ein siaradwr gwadd.

Bydd Keith yn darparu diweddariad pwysig ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn ogystal â’r cyd-destun y bydd yr hystings yn seiliedig arno: Maniffesto CWVYS; dull seiliedig ar hawliau o weithio ieuenctid yng Nghymru; a beth mae pobl ifanc eisiau ei weld yn digwydd iddyn nhw.

Byddwn yn gwahodd cwestiynau gan Aelod-sefydliadau CWVYS ac yn eu gofyn i’n gwesteion yn y digwyddiad. Cadwch lygad am eich cyfle i gyflwyno cwestiynau i CWVYS maes o law.

I gael golwg ar ein maniffesto ewch i: https://www.cwvys.org.uk/manifesto-cwvys/?lang=cy

Cylchlythr Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru

Mae CWVYS yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gasglu erthyglau a newyddion ar gyfer y cylchlythyr Gwaith Ieuenctid.

Rydym yn eich annog i anfon eich straeon a’ch erthyglau atom ar gyfer y rhifyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Ionawr, a’r pwnc yw Cyfranogiad.

Mae etholiadau’r flwyddyn nesaf yn gweld cyfranogiad pobl ifanc 16-17 oed am y tro cyntaf – efallai yn y cylchlythyr y gallech gynnwys stori ar eich syniadau neu weithio i drafod y pwnc hwn gyda’r bobl ifanc rydych yn ymgysylltu â nhw.

Yma (ochr yn ochr ag adnoddau LlC a Chomisiwn Etholiadol) gallwch ddod o hyd i wybodaeth gan y Senedd, sy’n cynnwys cynllun sesiwn ac mae adnoddau ar gyfer arweinwyr grwpiau ieuenctid i gyd ar gael ar HWB (Nid oes angen cyfrif HWB arnoch i’w lawrlwytho).

Yn ein Cylchlythr diwethaf gwnaethom rannu ‘canllaw canllaw’ LlC am syniad o’r hyn y mae tîm Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl.

Gallwch ddod o hyd i rhifynnau blaenorol yma

Danysgrifiwch yma

Mae’r tîm yn gobeithio y bydd cynnwys wedi’i gasglu ar gyfer y rhifyn nesaf erbyn yr 11eg o Ragfyr os gwelwch yn dda, anfonwch ef at helen@cwvys.org.uk 

Rydym yn edrych ymlaen at eich cyflwyniadau!

Arolwg CWVYS

Efallai eich bod yn cofio wnaethom gynnal arolwg yn gynharach yn y flwyddyn ar effaith pandemig Coronafirws ar y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Dosbarthwyd yr adroddiad ar ei ganfyddiadau yn eang i’n haelodau ond dyma’r ddolen eto er gwybodaeth ichi; https://www.cwvys.org.uk/cwvys-report-on-the-impact-of-covid-19/?lang=cy

Rydym nawr yn cynnal arolwg dilynol i asesu effaith barhaus y pandemig a byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech gymryd yr amser i’w gwblhau.

Rydym yn gwerthfawrogi bod pethau’n hynod ansicr, ond wrth edrych i’r dyfodol, byddai’n gadarnhaol i’n haelodau pe byddem yn gallu tynnu sylw at eu profiad o’r sefyllfa, yn enwedig wrth iddo barhau i newid.

Byddwch chi i gyd yn derbyn copi o’r adroddiad pan fydd wedi’i gwblhau fis nesaf.

A allech chi ei lenwi cyn gynted a phosib. Dyma’r arolwg: https://forms.gle/PJDmjdEnGi6d6yen8

Ar gyfer ymatebwyr byddwn yn rhoi pob enw mewn het am y cyfle i ennill taleb gwerth £50 – byddwn yn cyhoeddi’r enillydd yng nghyfarfod rhanbarthol mis Rhagfyr 😊

Diolch yn fawr i’r bobl sydd wedi ymateb yn barod.

Pwyllgor Pobl Ifanc

Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro am sefydlu Pwyllgor Pobl Ifanc, a allwch chi eu chefnogi?

Cydlynu pwyllgor pobl ifanc i weithio i’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ac i roi adborth iddo, yn benodol i ystyried y math o fodel gwaith ieuenctid newydd y dylid ei lunio ar sail yr angen i sicrhau hawliau pobl ifanc. Mae’r gwaith hwn ar gael i un sefydliad neu i bartneriaeth o sefydliadau (dylid nodi un partner arweiniol i dderbyn cyllid).  Mwy o wybodaeth yn y gwahoddiad i gynnig yma:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych am wneud cais am y gwaith hwn, cyflwynwch eich cais i flwch post BwrddGwaithIeuenctid@Llyw.Cymru erbyn hanner dydd ar 10 Rhagfyr 2020. 

GWOBRAU RHAGORIAETH GWAITH IEUENCTID 2020

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2020 bellach yn gwahodd enwebiadau.

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i enwebu rhywun, gan gynnwys ffurflen enwebu, ar gael ar-lein drwy’r dolenni isod:

https://llyw.cymru/gwobraurhagoriaethgwaithieuenctid

A fyddech gystal â dosbarthu’r wybodaeth hon yn eang drwy eich rhwydweithiau. Y dyddiad cau yw dydd Gwener, 28 Chwefror 2020. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu: Gwobraurhagoriaeth.gwaithieuenctid@llyw.cymru

DIWEDDARIADAU AR GYMWYSTERAU GWAITH IEUENCTID JNC

Cymwysterau Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid Cyd-Bwyllgor Trafod (JNC) Lefelau 2 a 3 a sut maent yn cyd-fynd â chymwysterau Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid Proffesiynol JNC yng Nghymru 

Cafodd y gyfres newydd o gymwysterau gwaith ieuenctid Lefel 2 a Lefel 3, ei ddatblygu’n gyntaf yn 2015, ac wedi cael eu hadnewyddu ac ar gael o 1 Ebrill 2020.

Fel o’r blaen, mae’r rhai ar lefel Tystysgrif yn rhoi cydnabyddiaeth Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid JNC a Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid Cynorthwyol JNC i’r rhai sy’n eu cwblhau. 
Mae’r papur hwn yn cynnwys holl gymwysterau gwaith ieuenctid JNC gyda chanolbwynt penodol ar y cymwysterau ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Ieuenctid. 

https://etswales.org.uk/home.php?page_id=8756&setLanguage=4

CYFARFODYDD RHANBARTHOL CWVYS

A picture with details of the regional meeting dates this week, in Welsh, actual dates and times below in text.

Bydd Cyfarfodydd ZOOM Cymdeithasol Rhanbarthol CWVYS yn cael eu cynnal bob pythefnos ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol. Yn ystod y cyfnod COVID-19 digynsail hwn, credwn ei bod yn bwysig estyn allan, cysylltu a chefnogi ein haelodau.

Y Dyddiadau nesaf yw:

Canol De a De Dwyrain Cymru – yn ymuno a Gogledd Cymru – 10/07/20 10yb to 11yb

Canolbarth a De Orllewin – 10/07/20 1yp to 2yp

Rydym yn darparu lle cefnogol i’r sector:

  • cadwch mewn cysylltiad â’i gilydd
  • cefnogaeth a rhannu gwybodaeth
  • cyfleu i eraill rhannu bryderon a materion y sector
  • a thipyn o hwyl

Cysylltwch â Catrin James: catrin@cwvys.org.uk i dderbyn y manylion ymuno i ymuno â’r cyfarfod yn eich rhanbarth.

ADRODDIAD CWVYS AR EFFAITH COVID-19

Mae’r ymateb i’n harolwg wedi dangos bod y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru wedi derbyn ac ymateb i her Covid-19 yn sydyn ac yn dda dros ben, gyda llai na 8% o’r Aelodau a arolygwyd yn nodi unrhyw newid gweithredol.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma: Adroddiad CWVYS ar effaith Covid-19 ar Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru. Dylai lawrlwytho’n awtomatig a dylai’r rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrin allu cyrchu disgrifiadau testun o’r graffiau a’r siartiau.

Tra bod hi’n glir bod gan y sector bryderon mawr am y dyfodol ar ôl y cyfyngiadau symud, mae nifer wedi addasu eu gwasanaethau neu ailbwrpasu adnoddau’n sydyn ac wedi parhau i gefnogi’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’n harolwg, gan ystyried y galw ar sylw pobl a’r cynnydd yn straen ac ansicrwydd dros yr ychydig fisoedd diwethaf, nid ydym yn cymryd y ffaith bod ein Aelodau wedi cymryd yr amser i ymateb yn ganiataol. Diolch i’r Aelodau hynny a ddarparodd cyfoeth o wybodaeth i ni, gobeithiwn fod yr adroddiad hwn wedi bod yn ddefnyddiol i holl aelodau CWVYS a’r sector ehangach.

Anelwn at gynnal yr arolwg hwn unwaith y chwarter yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Os yw’r materion yn yr adroddiad hwn yn canu cloch yn eich mudiad, neu os ydych yn gweld cyfleoedd am ymgysylltiad a chefnogaeth ar draws y sector, gallwch weld rhestr o Aelodau CWVYS ar ein gwefan: https://www.cwvys.org.uk/cy/members/

Rydym yn sicr y byddai Aelodau’n croesawu’r cyswllt. Daw gwerth y sector o’i Haelodau a sut rydych yn cefnogi eich gilydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch helen@cwvys.org.uk

YOUTH WORK WEEK IN CAERPHILLY

  • Caerphilly County Borough Council Youth service Youth Forum is hosting a meeting with the Leader of the council to discuss learners’ to help prepare young people for a return to School that week – this will be discussed at a wider Youth Forum later in the week and any local young people wishing to get involved in the Youth Forum may get in touch at JONESCL1@CAERPHILLY.GOV.UK
  • Throughout the week, outreach staff will work closely with Gwent Police to advise young people out and about regarding social distancing and how to stay safe – watch out for our youth workers on your street corner!  Online quizzes will take place in connection with this activity on different evenings.
  • Monday-Thursday, youth workers will be running online group sessions and quizzes focussed on the UNCRC, with prizes and certificates linked to this
  • The service is also running a competition for young people to design a picture/poster/poem on what youth work means to them.
  • A mixture of fun activities and wellbeing/self-esteem promoting activities are to be delivered all week (and have been since lockdown began) but this week sees celebration all young people’s fantastic achievements and efforts during lockdown – certificates for this are to be sent out this week.
  • Virtual cooking sessions to make celebratory cakes for Youth Work Week.
  • Online parties
  • A 7 day challenge to create a video on what youth workers mean to young people.
  • All week, the Youth Service is distributing Period Dignity products
  • The Youth service’s/County’s LGBT group for young people meets to celebrate Youth work Week on Saturday 27th.  For information about this group, contact GETHFN@CAERPHILLY.GOV.UK
  • The Youth Services education (EOTAS) groups return to activity from the 24th.

CYFARFODYDD RHANBARTHOL CWVYS

Bydd Cyfarfodydd ZOOM Cymdeithasol Rhanbarthol CWVYS yn cael eu cynnal bob pythefnos ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol. Yn ystod y cyfnod COVID-19 digynsail hwn, credwn ei bod yn bwysig estyn allan, cysylltu a chefnogi ein haelodau.

Y Dyddiadau nesaf yw:

Canol De a De Dwyrain Cymru – 25/06/20 – 10yb to 11yb

Gogledd Cymru – 26/06/20 10yb to 11yb

Canolbarth a De Orllewin – 26/06/20 1yp to 2yp

Rydym yn darparu lle cefnogol i’r sector:

  • cadwch mewn cysylltiad â’i gilydd
  • cefnogaeth a rhannu gwybodaeth
  • cyfleu i eraill rhannu bryderon a materion y sector
  • a thipyn o hwyl

Cysylltwch â Catrin James: catrin@cwvys.org.uk i dderbyn y manylion ymuno i ymuno â’r cyfarfod yn eich rhanbarth.