Arolygwyr Cymheiriaid Gwaith Ieuenctid Estyn

Mae Estyn yn recriwtio arolygwyr cymheiriaid i weithio ar eu harolygiadau ieuenctid.

Maen’t yn croeso ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd:

  • Ag o leiaf 3 blynedd o brofiad mewn sefydliad gwaith ieuenctid neu ym maes gwaith ieuenctid;
  • Â phrofiad â thâl neu heb dâl (gwirfoddolwr) yn eu rĂ´l gwaith ieuenctid, yn amser llawn neu’n rhan-amser;
  • Â phrofiad o waith ieuenctid mewn rĂ´l ansawdd.

Mae cymhwyster wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol mewn gwaith ieuenctid (neu brawf eich bod yn gweithio tuag at un) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar hyn o bryd, gan fod y proffesiwn yn gweithio tuag at lefelau cymhwyster a chofrestru llawn. Bydd hyn yn ofyniad hanfodol o fis Medi 2026 ymlaen.

Dyddiad cau: 10yb ddydd Llun, 29 Ebrill 2024

Mwy o wybodaeth a pecyn cais ar gael yma: Gweithio i ni | Estyn (llyw.cymru)

Hyfforddiant am ddim i’r Sector Ieuenctid yng Nghymru

 

Mae Darryl White (Swyddog Datblygu’r Gweithlu ar gyfer y sector cyfan, wedi’i leoli yn CLlLC), wedi gwneud trefniant gyda Brook i gyflwyno: DPP: Offeryn Goleuadau Traffig Ymddygiad Rhywiol Brook (RSE) i’r sector.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno i 44 o staff o fewn y sector, yn ddelfrydol 22 o staff Awdurdod Lleol a 22 o’r sector Ieuenctid Gwirfoddol.

Gofynnwyd i ni drosglwyddo’r ffurflen Datganiad o Diddordeb sydd ynghlwm i’r Aelodau, mesur y diddordeb ac yna trosglwyddo’r manylion i Darryl i hysbysu’r sesiwn(sesiynau) hyfforddi.

Dyma’r dyddiadau oddi wrth Brook: Mehefin y 10fed, 17eg a 24ain. Mae pob sesiwn yr un peth, gall mynychwyr ddewis y dyddiad sydd well ganddynt o blith y tri a gynigir. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd lle rhwng 9.30 yb a 3.30 yp, a fydd y cwrs ar-lein i fod yn fwy hygyrch. Rydym yn aros i glywed am darparieath Cymraeg.

A allwch chi rhoi wybod i ni trwy anfon y ffurflen nol i helen@cwvys.org.uk erbyn 22/04/24.

Dim ond un lle fyddai i bob aelod-sefydliad.

Diolch I’r pobl sydd wedi anfon eu ffurflennu yn ol yn barod 😊

 

Gweminar – Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru

 

Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru

15 Ebrill 2024, 1-3pm

​Cyflwynir y gweminar yma gan y GrĹľp Cyfranogiad Gweithredu Datblygu’r Gweithlu, un o bum grĹľp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

​Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’, rydym ni, fel GCG, yn cydnabod yr angen i ddeall yn well pan fydd angen gwaith pellach i helpu ddatblygu’r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol i greu gweithlu medrus iawn sydd yn gallu bodloni anghenion cymhleth a chyfnewidiol cynyddol pobl ifanc ledled Cymru.

​Fel sydd yn wir i’r mwyafrif o broffesiynau, mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a chadw Gweithwyr Ieuenctid. Mae aelodau’r GCG yn ymdrechu i ddatblygu strategaethau sydd yn mynd i’r adael â’r materion yma. Yn y gweminar yma, cewch glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill a chewch gyfle i ofyn cwestiynau a chynnig syniadau.

​Bydd y gweminar yn cynnwys:

​· Cipolwg ar waith yr GCG

​· Sesiynau ymgysylltu cynulleidfa ar:

– Ydy’r model cyflenwi gweithlu presennol yn addas i’w ddiben?

– Ble gellir dyrannu cyllid datblygu’r gweithlu?

– Sut gallwn ni hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel opsiwn gyrfa?

 

​Gobeithio y gallech ymuno â am sgwrs ddifyr dros gyfnod o ddwy awr gydag aelodau’r GCG – os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi o flaen llaw wrth i chi gadw eich lle.

​Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:

​Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent – Cadeirydd GCG Datblygu’r Gweithlu

Steve Drowley, Cadeirydd ETS Cymru Wales

Emma Chivers, Ymgynghorydd Gwaith Ieuenctid

Darryl White, Swyddog Datblygu’r Gweithlu

Donna Robins, Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru

 

​Mae croeso i bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.

Cofrestrwch am ddim heddiw – https://lu.ma/lmkr04fv

​Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael.

Gwnewch gais i fod yn Gydymaith – Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

 

Dewch yn Gydymaith – Ceisiadau ar agor

Ymrwymiad yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw sicrhau bod Cymru’n lle gwych i arweinwyr addysgol ac y byddwn, trwy ledaenu sgiliau arwain rhagorol ledled y system addysg, yn gwireddu uchelgais feiddgar ein cenedl ar gyfer dysgwyr.

Rydym yn chwilio am uwch arweinwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â’r garfan nesaf o Gymdeithion. Ar gyfer y rownd nesaf hon o Gymdeithion, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn penodi uwch arweinwyr o amrywiol leoliadau addysgol ledled Cymru gan gynnwys:

  • Penaethiaid Cynorthwyol
  • Dirprwy Benaethiaid
  • Penaethiaid
  • Uwch arweinwyr o’r sector gwaith ieuenctid
  • Uwch arweinwyr o Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (gan gynnwys addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu seiliedig ar waith).

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn ceisio penodi Cymdeithion o blith grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli gan gynnwys pobl Ddu a Mwyafrif Byd-eang ym mhob sector.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10 Mai.

Darganfyddwch fwy ar y wefan.

Lawrlwythwch y canllaw cais

Lawrlwythwch y ffurflen gais

Gweminar ERYICA ar gyfer Diwrnod Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd 2024 #EYID24

 

Mae Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop (ERYICA) yn awyddus i gael gwybodaeth o ansawdd uchel sy’n gyfeillgar i bobl ifanc, a bob blwyddyn maent yn hyrwyddo ac yn dathlu’r nod hwn trwy Ddiwrnod Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd (EYID), a gynhelir ar Ebrill 17th.

Thema eleni yw Democratiaeth, os oes unrhyw un ohonoch yn gweithio ar neu’n meddwl ymlaen at Etholiadau Lleol y DU ar 2ail Mai, a sut i’w gwneud yn bwysig i’n cymunedau a’n pobl ifanc, yna efallai y bydd gweminar ERYICA o ddiddordeb ac yn ysbrydoliaeth i chi. Mwy o wybodaeth gan ERYICA isod.

 

“Democratiaeth ar Waith: Grymuso Ieuenctid trwy Wybodaeth”

Bydd y sesiwn ar-lein hon yn canolbwyntio ar bwysigrwydd pleidlais ieuenctid a democratiaeth yn
ein dyddiau.
Byddwn yn trafod sut y gall gwybodaeth ieuenctid lenwi’r bwlch mewn pobl ifanc
gwybodaeth am brosesau democrataidd wrth archwilio rĂ´l gweithwyr ieuenctid mewn
hyrwyddo democratiaeth, yn enwedig ar adegau o adfyd.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cyflwyno unrhyw dysteb am
y pwnc, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni: aurelien.liot@eryica.org
Dyddiad: 17 Ebrill 2024

Eich sylw os gwelwch yn dda, bydd y gweminar yn cael ei gynnal yn Saesneg i gynulleidfa o fynychwyr gwaith ieuenctid Ewropeaidd amlieithog.

Ymunwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_XRu1CAe9SrGkSAHtM8awCA#/registration

Dyddiadau Cyfarfodydd Rhanbarthol CWVYS ar gyfer 2024

Dyddiadau tan Rhagfyr 2024

Mae pob cyfarfod yn dechrau am 10yb ac yn gorffen cyn 11.30yb, os hoffech fynychu cysylltwch a Catrin@CWVYS.org.uk

 Mis Canol De a De Ddwyrain Cymru

 

Gogledd. De Orllewin a Chanolbarth Cymru

 

Ebrill  25-4-24   Cyfarfod Cymru Gyfan
Mai 23-5-24 24-5-24
Mehefin  20-6-24 21-6-24
Gorffennaf  25-7-24   Cyfarfod Cymru Gyfan
Medi  26-9-24 27-9-24
Hydref  24-10-24 25-10-24
Tachwedd  21-11-24 22-11-24
Rhagfyr  12-12-24   Cyfarfod Cymru Gyfan

ETS Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant

Cwblhewch yr Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant!

Mae’r amser wedi dod i gwblhau’r Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant. Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eu hadroddiad terfynol ‘Amser i gyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru’, rydym yn cydnabod yr angen i ddeall yn well y sgiliau a’r hyfforddiant sydd gan y gweithlu gwaith ieuenctid ar hyn o bryd a lle mae angen gwneud rhagor o waith i helpu’r gweithlu i ddatblygu. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym weithlu medrus iawn sy’n gallu diwallu anghenion cynyddol gymhleth a newidiol pobl ifanc ledled Cymru.

Os ydych chi’n Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, cwblhewch yr arolwg hwn a fydd yn ein galluogi i sefydlu beth sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich sgiliau i ddiwallu anghenion pobl ifanc: Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant y Gweithlu Gwaith Ieuenctid – Unigol (data.cymru)

Os ydych chi’n Arweinydd Sefydliad Gwaith Ieuenctid ac yn gyfrifol am reoli Gwaith Ieuenctid, cwblhewch yr arolwg hwn a fydd yn amlinellu’r anghenion yn eich sefydliad: Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant y Gweithlu Ieuenctid – Cyflogwr (data.cymru)

CWBLHEWCH ERBYN: 15th Ebrill 2024

Drwy gymryd rhan yn yr Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant hwn, byddwch yn darparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr i gefnogi dyluniad a gweithrediad rhaglen hyfforddi i helpu i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi yng Nghymru, gan flaenoriaethu’r themâu mwyaf cyffredin a nodwyd.

Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio | LLYW.CYMRU

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

FFURFLEN AR-LEIN

Ymateb ar-lein

Mae ffurflen ymateb hawdd ei ddeall hefyd ar gael.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn newydd o’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Bydd y strategaeth yn disodli’r strategaeth flaenorol Siarad â fi 2.

Rydym hefyd yn gofyn am farn ar fersiwn ddrafft newydd o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.

Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i’w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r ymgyngoriadau. 

I ofyn am becyn ymgysylltu i oedolion, cysylltwch â mentalhealthandvulnerablegroups@llyw.cymru.

YMGYNGHORIAD AR AGOR o Llywodraeth Cymru ar Strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant meddyliol

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

FFURFLEN AR-LEIN

Ymateb ar-lein

Mae fersiwn i blant a phobl ifanc o’r ffurflen ar-lein hefyd wedi’i chynhyrchu.

Ymateb ar-lein (fersiwn i blant a phobl ifanc)

Mae ffurflen ymateb hawdd ei ddeall hefyd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn newydd o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol i Gymru. Bydd y strategaeth yn cymryd lle’r strategaeth ddeng mlynedd flaenorol law yn llaw at iechyd meddwl.

Rydym hefyd yn gofyn am farn ar fersiwn ddrafft newydd o’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio.

Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i’w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r ymgyngoriadau. Mae adnoddau ar gael ar gyfer oedolion a phobl ifanc:

Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru | Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu eich barn ar ganllawiau drafft ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru.

‘O fis Medi 2023, mae pob ysgol yng Nghymru yn addysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru ym mhob grĹľp blwyddyn hyd at Flwyddyn 8. Bydd y cwricwlwm wedyn yn cael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn hšn hyd nes y bydd pob dysgwr 3 i 16 oed yn dilyn Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026. Dyhead Cwricwlwm i Gymru yw bod pob dysgwr yn gadael addysg yn 16 oed gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo, ac wedi datblygu’r galluoedd, yr ymagweddau a’r nodweddion a ddisgrifir yn y pedwar diben; mae hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf o ran cefnogi pobl ifanc i ffynnu fel dysgwyr gydol oes. Rydym am i gyflawniadau a chynnydd pob dysgwr gael eu cydnabod a’u cefnogi wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.’

Am fwy o wybodaeth am sut i gyflwyno eich barn, ewch i – Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru [HTML] | LLYW.CYMRU

GWEMINAR: Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru

15 Ebrill 2024, 1-3 yp

Cyflwynir y gweminar yma gan y GrĹľp Cyfranogiad Gweithredu Datblygu’r Gweithlu, un o bum grĹľp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru‘, rydym ni, fel GCG, yn cydnabod yr angen i ddeall yn well pan fydd angen gwaith pellach i helpu ddatblygu’r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol i greu gweithlu medrus iawn sydd yn gallu bodloni anghenion cymhleth a chyfnewidiol cynyddol pobl ifanc ledled Cymru.

Fel sydd yn wir i’r mwyafrif o broffesiynau, mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a chadw Gweithwyr Ieuenctid. Mae aelodau’r GCG yn ymdrechu i ddatblygu strategaethau sydd yn mynd i’r adael â’r materion yma. Yn y gweminar yma, cewch glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill a chewch gyfle i ofyn cwestiynau a chynnig syniadau.

Bydd y gweminar yn cynnwys:

  • Cipolwg ar waith yr GCG
  • Sesiynau ymgysylltu cynulleidfa ar:
    – Ydy’r model cyflenwi gweithlu presennol yn addas i’w ddiben?
    – Ble gellir dyrannu cyllid datblygu’r gweithlu?
    – Sut gallwn ni hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel opsiwn gyrfa?

Gobeithiwn y gallech ymuno â ni am sgwrs ddifyr dros gyfnod o ddwy awr gydag aelodau’r GCG – os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi o flaen llaw wrth i chi gadw eich lle.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:

  • Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent – Cadeirydd GCG Datblygu’r Gweithlu
  • Steve Drowley, Cadeirydd ETS Cymru Wales
  • Emma Chivers, Ymgynghorydd Gwaith Ieuenctid
  • Darryl White, Swyddog Datblygu’r Gweithlu
  • Donna Robins, Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru

Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma. 

Cofrestrwch am ddim heddiw: https://lu.ma/lmkr04fvBydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael.

CGA i barhau i ddarparu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a gydnabyddir yn genedlaethol, hyd nes mis Mawrth 2025.

Mae’r Marc Ansawdd yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau yn narpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Ers dyfarnu’r contract iddynt yn wreiddiol yn 2020, mae CGA wedi:

  • cwblhau 60 o asesiadau
  • hyfforddi 297 o weithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid
  • hyfforddi grĹľp o 46 o aseswyr

Meddai Andrew Borsden, Swyddog Datblygu CGA ar gyfer y Marc Ansawdd “Mae datblygu’r Marc Ansawdd dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn bleser gwirioneddol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae CGA wedi cael y fraint o fod yn dyst i enghreifftiau rhagorol o waith ieuenctid, ac mae cydnabod y cyflawniadau hyn yn ffurfiol trwy ddyfarniad mor fawreddog yn foddhaol tu hwnt”.

Mewn tweet wnaeth darllen;

‘Ry’n ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi ein hailgomisiynyu gan @LlywodraethCym i ddarparu a datblygu y marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid, nes mis Mawrth 2025. https://buff.ly/3x3fooA

I ddysgu am waith parhaus CGA, edrychwch ar weddill yr erthygl yma. I ddysgu am waith parhaus CGA, edrychwch ar yr erthygl sy’n weddill. CGA i barhau i gyflwyno’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (ewc.wales)