ETS Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant

Cwblhewch yr Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant!

Mae’r amser wedi dod i gwblhau’r Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant. Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eu hadroddiad terfynol ‘Amser i gyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru’, rydym yn cydnabod yr angen i ddeall yn well y sgiliau a’r hyfforddiant sydd gan y gweithlu gwaith ieuenctid ar hyn o bryd a lle mae angen gwneud rhagor o waith i helpu’r gweithlu i ddatblygu. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym weithlu medrus iawn sy’n gallu diwallu anghenion cynyddol gymhleth a newidiol pobl ifanc ledled Cymru.

Os ydych chi’n Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, cwblhewch yr arolwg hwn a fydd yn ein galluogi i sefydlu beth sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich sgiliau i ddiwallu anghenion pobl ifanc: Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant y Gweithlu Gwaith Ieuenctid – Unigol (data.cymru)

Os ydych chi’n Arweinydd Sefydliad Gwaith Ieuenctid ac yn gyfrifol am reoli Gwaith Ieuenctid, cwblhewch yr arolwg hwn a fydd yn amlinellu’r anghenion yn eich sefydliad: Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant y Gweithlu Ieuenctid – Cyflogwr (data.cymru)

CWBLHEWCH ERBYN: 15th Ebrill 2024

Drwy gymryd rhan yn yr Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant hwn, byddwch yn darparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr i gefnogi dyluniad a gweithrediad rhaglen hyfforddi i helpu i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi yng Nghymru, gan flaenoriaethu’r themâu mwyaf cyffredin a nodwyd.

Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio | LLYW.CYMRU

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

FFURFLEN AR-LEIN

Ymateb ar-lein

Mae ffurflen ymateb hawdd ei ddeall hefyd ar gael.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn newydd o’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Bydd y strategaeth yn disodli’r strategaeth flaenorol Siarad â fi 2.

Rydym hefyd yn gofyn am farn ar fersiwn ddrafft newydd o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.

Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i’w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r ymgyngoriadau. 

I ofyn am becyn ymgysylltu i oedolion, cysylltwch â mentalhealthandvulnerablegroups@llyw.cymru.

YMGYNGHORIAD AR AGOR o Llywodraeth Cymru ar Strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant meddyliol

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

FFURFLEN AR-LEIN

Ymateb ar-lein

Mae fersiwn i blant a phobl ifanc o’r ffurflen ar-lein hefyd wedi’i chynhyrchu.

Ymateb ar-lein (fersiwn i blant a phobl ifanc)

Mae ffurflen ymateb hawdd ei ddeall hefyd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn newydd o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol i Gymru. Bydd y strategaeth yn cymryd lle’r strategaeth ddeng mlynedd flaenorol law yn llaw at iechyd meddwl.

Rydym hefyd yn gofyn am farn ar fersiwn ddrafft newydd o’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio.

Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i’w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r ymgyngoriadau. Mae adnoddau ar gael ar gyfer oedolion a phobl ifanc:

Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru | Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu eich barn ar ganllawiau drafft ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru.

‘O fis Medi 2023, mae pob ysgol yng Nghymru yn addysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru ym mhob grĹľp blwyddyn hyd at Flwyddyn 8. Bydd y cwricwlwm wedyn yn cael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn hšn hyd nes y bydd pob dysgwr 3 i 16 oed yn dilyn Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026. Dyhead Cwricwlwm i Gymru yw bod pob dysgwr yn gadael addysg yn 16 oed gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo, ac wedi datblygu’r galluoedd, yr ymagweddau a’r nodweddion a ddisgrifir yn y pedwar diben; mae hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf o ran cefnogi pobl ifanc i ffynnu fel dysgwyr gydol oes. Rydym am i gyflawniadau a chynnydd pob dysgwr gael eu cydnabod a’u cefnogi wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.’

Am fwy o wybodaeth am sut i gyflwyno eich barn, ewch i – Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru [HTML] | LLYW.CYMRU

GWEMINAR: Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru

15 Ebrill 2024, 1-3 yp

Cyflwynir y gweminar yma gan y GrĹľp Cyfranogiad Gweithredu Datblygu’r Gweithlu, un o bum grĹľp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru‘, rydym ni, fel GCG, yn cydnabod yr angen i ddeall yn well pan fydd angen gwaith pellach i helpu ddatblygu’r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol i greu gweithlu medrus iawn sydd yn gallu bodloni anghenion cymhleth a chyfnewidiol cynyddol pobl ifanc ledled Cymru.

Fel sydd yn wir i’r mwyafrif o broffesiynau, mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a chadw Gweithwyr Ieuenctid. Mae aelodau’r GCG yn ymdrechu i ddatblygu strategaethau sydd yn mynd i’r adael â’r materion yma. Yn y gweminar yma, cewch glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill a chewch gyfle i ofyn cwestiynau a chynnig syniadau.

Bydd y gweminar yn cynnwys:

  • Cipolwg ar waith yr GCG
  • Sesiynau ymgysylltu cynulleidfa ar:
    – Ydy’r model cyflenwi gweithlu presennol yn addas i’w ddiben?
    – Ble gellir dyrannu cyllid datblygu’r gweithlu?
    – Sut gallwn ni hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel opsiwn gyrfa?

Gobeithiwn y gallech ymuno â ni am sgwrs ddifyr dros gyfnod o ddwy awr gydag aelodau’r GCG – os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi o flaen llaw wrth i chi gadw eich lle.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:

  • Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent – Cadeirydd GCG Datblygu’r Gweithlu
  • Steve Drowley, Cadeirydd ETS Cymru Wales
  • Emma Chivers, Ymgynghorydd Gwaith Ieuenctid
  • Darryl White, Swyddog Datblygu’r Gweithlu
  • Donna Robins, Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru

Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma. 

Cofrestrwch am ddim heddiw: https://lu.ma/lmkr04fvBydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael.

CGA i barhau i ddarparu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a gydnabyddir yn genedlaethol, hyd nes mis Mawrth 2025.

Mae’r Marc Ansawdd yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau yn narpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Ers dyfarnu’r contract iddynt yn wreiddiol yn 2020, mae CGA wedi:

  • cwblhau 60 o asesiadau
  • hyfforddi 297 o weithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid
  • hyfforddi grĹľp o 46 o aseswyr

Meddai Andrew Borsden, Swyddog Datblygu CGA ar gyfer y Marc Ansawdd “Mae datblygu’r Marc Ansawdd dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn bleser gwirioneddol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae CGA wedi cael y fraint o fod yn dyst i enghreifftiau rhagorol o waith ieuenctid, ac mae cydnabod y cyflawniadau hyn yn ffurfiol trwy ddyfarniad mor fawreddog yn foddhaol tu hwnt”.

Mewn tweet wnaeth darllen;

‘Ry’n ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi ein hailgomisiynyu gan @LlywodraethCym i ddarparu a datblygu y marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid, nes mis Mawrth 2025. https://buff.ly/3x3fooA

I ddysgu am waith parhaus CGA, edrychwch ar weddill yr erthygl yma. I ddysgu am waith parhaus CGA, edrychwch ar yr erthygl sy’n weddill. CGA i barhau i gyflwyno’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (ewc.wales)

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan yn Llwybr 1 Taith!

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan yn Llwybr 1 Taith! Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 12:00pm ar 20 Mawrth. 

Ydy eich ysgol neu sefydliad yn ystyried gwneud cais am gyllid Llwybr 1 Taith ar gyfer eich gweithgareddau symudedd rhyngwladol?  Mae WCIA a Diverse Cymru yma i’ch helpu.  Fel Hyrwyddwyr Taith, gallwn eich helpu gyda’ch ceisiadau, o ddarparu cymorth gweinyddol i helpu i adnabod darpar bartneriaid.   

Bydd yr olaf o’n tair gweminar yn cael ei chynnal ar 18 Mawrth am 4pm trwy Zoom.  Taith Champions – Pathway 1 Last Minute Q&A Tickets, Mon 18 Mar 2024 at 16:00 | Eventbrite

Mae’n gyfle i ofyn unrhyw un o’r cwestiynau munud olaf hynny rydych chi dal yn ansicr amdanynt, rhannu arfer gorau, a gweld beth mae sefydliadau o’r un anian yn cynllunio. 

Cliciwch yma i gofrestru 

Os wnaethoch chi golli ein gweminarau blaenorol, gallwch ddod o hyd i recordiadau ohonynt yma: 

https://us02web.zoom.us/rec/share/omUln1r99ksdzo1I_Zl9rOB4M5ZHpViBPcIxaAquMRQRjFIpuncbrseRozOdYjk8.Rt1Lo5SS-oG4XycP

Cyfrinair: Y6g^hk?$ 

Arolygwyr Cymheiriaid Gwaith Ieuenctid – Estyn

Mae Estyn yn recriwtio arolygwyr cymheiriaid i weithio gyda nhw yn ystod ei harolygiadau ieuenctid.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd:

  • Ag o leiaf 3 blynedd o brofiad mewn sefydliad gwaith ieuenctid neu ym maes gwaith ieuenctid;
  • Â phrofiad â thâl neu heb dâl (gwirfoddolwr) yn eu rĂ´l gwaith ieuenctid, yn amser llawn neu’n rhan-amser;
  • Â phrofiad o waith ieuenctid mewn rĂ´l ansawdd.

Mae cymhwyster wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol mewn gwaith ieuenctid (neu brawf eich bod yn gweithio tuag at un) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar hyn o bryd, gan fod y proffesiwn yn gweithio tuag at lefelau cymhwyster a chofrestru llawn. Bydd hyn yn ofyniad hanfodol o fis Medi 2026 ymlaen.

Mae recriwtio’n dechrau o ddydd Llun, 4 Mawrth – ddydd Llun, 25 Mawrth 2024#

Gweithio i ni | Estyn (llyw.cymru)

Cryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru – Diweddariad gan Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd cyfres o sesiynau galw heibio ‘Yr Awr Fawr’ ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid ym mis Rhagfyr 2023 i gyflwyno’r dull arfaethedig o gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan adeiladu ar ddatganiad diweddar Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Daeth dros 70 o bobl i’r sesiynau, ac roedd hynny wedi’n galluogi i ddechrau casglu ystod eang o safbwyntiau ac enghreifftiau o arfer da, gan gynnwys mewn perthynas â dulliau seiliedig ar hawliau, ac enghreifftiau arloesol o arwain a gweithio mewn partneriaeth. Cafwyd adborth gwerthfawr hefyd am feysydd y mae angen eu hystyried ymhellach, gan gynnwys cryfderau a gwendidau gwahanol ddiffiniadau o waith ieuenctid a sut y cânt eu cymhwyso, yr her o gydbwyso darpariaeth gyffredinol a’r ddarpariaeth sydd wedi ei thargedu, pa mor eglur yw’r rolau a therminoleg, a’r angen i godi mwy o ymwybyddiaeth mewn sectorau eraill y tu allan i waith ieuenctid, ac effaith hynny. Y prif negeseuon
    • “Cychwyn o’r cychwyn” – mae gwaith ieuenctid wedi colli ei wreiddiau a’i hunaniaeth mewn perthynas â bod yn wasanaeth cyffredinol ac yn hawl i bob person ifanc.
    • Angen clir am iaith symlach a mwy disgrifiadol i wahaniaethu rhwng gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymorth ehangach fel bod pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd yn deall hyn yn haws.
    • Dylid cyflwyno hawliau mewn ffordd naturiol a grymusol ac ar draws pob maes addysg – nid mewn modd haearnaidd a biwrocrataidd.
    • Mae gwaith ieuenctid yn aml yn cael ei ystyried yn ddatrysiad ataliol ac nid fel ffurf deilwng ac effeithiol o addysg.
    • Mae ymarfer gwaith ieuenctid a diffiniadau/dealltwriaeth yn cael eu hysgogi gan newidiadau cymdeithasol, bylchau mewn gwasanaethau a straen gyllidebol – ac nid gan yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau neu ei angen.
    • Mae dathlu gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid yn helpu i godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r sector a’i effaith.
    • Nid oes cydbwysedd bob amser rhwng darpariaeth wedi’i thargedu a darpariaeth gyffredinol, ond mae’r ddau yn bwysig ac yn dibynnu ar ei gilydd.
    • Mae gwaith ieuenctid yn canolbwyntio ar gyfleoedd, ond yn aml mae cyllid yn canolbwyntio ar broblemau.
    • Mae iaith sy’n seiliedig ar gyfleoedd yn fwy deniadol a chyffrous i bobl ifanc.
    • Mae mynediad at wasanaethau yn cael ei ysgogi gan atgyfeiriadau, yn cymryd llawer o amser ac yn gostus.
    • Mae gweithwyr ieuenctid yn aml yn cael eu hystyried yn arbenigwyr wrth greu a chynnal perthynas â phobl ifanc a gallant fod yn esiamplau ar gyfer gwasanaethau eraill.
    • Mae angen gwneud mwy i gau’r bwlch rhwng gwaith ieuenctid a sectorau eraill ac annog gweithwyr ieuenctid i ddylanwadu a llywio meysydd polisi sy’n effeithio ar bobl ifanc.
    • Mae angen eglurder ar atebolrwydd er mwyn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau lywodraethu gwaith ieuenctid yn effeithiol ac i weithwyr ieuenctid gefnogi pobl ifanc i gymryd rhan.
Yn ystod cam nesaf yr ymgysylltu, byddwn yn trafod gydag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a rhanddeiliaid allweddol eraill i edrych yn fanylach ar rai o’r materion a nodwyd uchod a phynciau eraill. Bydd rhagor o wybodaeth ar y prif negeseuon o’r cam hwn yn cael ei rannu maes o law. Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r sgwrs, ond heb gael y cyfle eto, cysylltwch â GwaithIeuenctid@llyw.cymru

GWEMINAR: Promo Cymru – Cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflwynir y gweminar yma gan y GrĹľp Cyfranogiad Gweithredu Y Gymraeg, un o bum grĹľp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

​Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd y “Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai hefyd sicrhau mai un o flaenoriaethau allweddol y Corff Cenedlaethol fydd hyrwyddo gwasanaethau gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.”

​ 

Rydym yn awyddus felly i ddarganfod mwy am y pethau da sydd yn digwydd ledled Cymru yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r sector fel y gall cyfrannu at ddatblygiad yr argymhelliad yma, ac agweddau eraill o’n gwaith.

​Byddem yn rhannu’r gwaith sydd yn digwydd ar lefel cenedlaethol yn y gweminar yma, llawer ohono yn newydd ac yn parhau i ddatblygu.  Byddem yn trafod y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y gwaith a’r camau nesaf. 

Uchelgais GCG Y Gymraeg yw gweld fframwaith strategol yn datblygu a fyddai’n amlinellu’n  glir sut y byddai trawstoriad o sefydliadau yn cynllunio’n bwrpasol er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg​. Rydym eisiau clywed felly gan amrywiaeth o sefydliadau er mwyn parhau i ddatblygu’r drafodaeth hon.  Rhennir esiamplau o ymarfer gorau a phrofiadau wrth ymateb i heriau yn ystod y gweminar, ac rydym yn awyddus i gasglu tystiolaeth bellach i gefnogi’r gwaith yma.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys: 

–  Lowri Jones, Menter Iaith Sir Caerffili – Cadeirydd GCG Y Gymraeg
– Iestyn Wyn, Llywodraeth Cymru
– Prosiect CFTi – Cyngor Dinas Caerdydd, Menter Caerdydd a’r Urdd
– GISDA
– Urdd Gobaith Cymru

​Bydd ail ran y gweminar yn cynnwys gweithdai mewn grwpiau llai i drafod y canlynol: 

– Sut gallwn gynllunio’n strategol, fel partneriaid, i gynyddu gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg?
– Beth yw rhai o’r cyfleoedd a’r rhwystrau posib?

​ 

​Croesawir Cyfarwyddwyr, Cydlynwyr, Penaethiaid Gwasanaethau a Phrif Weithredwyr sefydliadau sydd yn rheoli a chynllunio gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.

Cofrestrwch heddiw: https://lu.ma/i2rizvem

07 Mawrth 2024

10 – 11:30yb