Cwblhewch arolwg bwysig os gwelwch yn dda

Plîs gallwch chi cwblhau arolwg Lizzy os gwelwch yn dda?

Prosiect KESS – Mae Mapio a Gwerthuso Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Cymru yn brosiect Meistr yn ôl Ymchwil a gynhelir gan Brifysgol De Cymru ac a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop mewn partneriaeth â CWVYS. Nod yr ymchwil yw gwneud y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn fwy gweladwy a sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Efallai eich bod yn ymwybodol nad oes digon o ymchwil a gwerth i’r sector gwirfoddol o’i gymharu â gwasanaethau statudol, sy’n cynnal archwiliad bob blwyddyn. Gobeithiwn y gall ein hymchwil newid hyn.

I wneud hynny, byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad at ein harolwg byr ar-lein. Os ydych yn fudiad sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, dilynwch y ddolen isod i’r arolwg sy’n syml yn nodi natur eich mudiad a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc. Ni ddylai cwblhau’r arolwg gymryd mwy na 15 munud.  Gwerthfawrogir eich amser a’ch sylwadau yn fawr.


I gychwyn yr arolwg, dilynwch y dolen yma
: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapio-a-gwerthuso-sector-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-cymru

Gofynnir ichi hefyd rannu dolen a gwybodaeth yr arolwg ymhlith eich rhwydweithiau (e.e. drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol) – po fwyaf o ymatebion a gawn, y gorau y gallwn gynrychioli profiadau’r sector cyfan a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.

Fe gewch ragor o wybodaeth am y prosiect ar ddechrau’r arolwg, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â’r ymchwilydd drwy e-bost: Elizabeth.bacon@southwales.ac.uk

 

Gallwch hefyd dilyn y waith yma ar y cyfryngau cymdeithasol canlynol;

 

Diolch ymlaen llaw am eich mewnbwn. Gyda’ch cymorth, rwy’n gobeithio y gallwn ni gyflawni’r newid a’r gynrychiolaeth sydd eu hangen ar y sector.

Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. 

Ymgyrch Haf Prentisiaethau

Mae Golley Slater wedi creu ffolder o asedau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi’r Ymgyrch Haf Prentisiaethau sy’n dechrau ddydd Llun 15 Awst.

Gellir lawrlwytho’r cynnwys yma: Ymgyrch haf Prentisiaethau – asedau rhanddeiliaid

Gallwch hefyd dod o hyd i;

 

Animeiddiad sectorau prentisiaethau ^

Mae’r holl gynnwys yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae awgrymiadau am gopi cymdeithasol y mae croeso i chi ei ddefnyddio. Os ydych chi’n cymryd rhan i hyrwyddo’r cynllun i’r bobl ifanc rydych chi’n ymgysylltu â nhw, a allech chi ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodCanlyniadau2022 

Os hoffech chi ddarganfod mwy neu gael mynediad at fwy o adnoddau gan gynnwys animeiddiad hirach, e-bostiwch Ellie Thorne trwy ethorne@golleyslater.co.uk

Diweddariad gan Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Diweddariad gan Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Sharon Lovell MBE

Helo Pawb,

Gobeithio eich bod popeth yn dda gyda chi yn ystod y tywydd poeth iawn hwn ac eich bod yn cadw’n ddiogel. Ro’n i am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr hyn sy’n digwydd o ran gwaith y Grwpiau Cyfranogiad Strategaeth (GCS) wrth i ni bontio i’r Bwrdd Gweithredu newydd.

Fel dwi’n siŵr y mae’r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, ym mis Mehefin cynhaliodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ei gyfarfod olaf. Rhoddodd hwn gyfle inni fyfyrio ar y llwyddiannau ry’n ni, fel sector, wedi’u cyflawni. Ry’n ni mor falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at daro mlaen â’n gwaith ymhellach i sicrhau bod gwaith ieuenctid Cymru yn gynaliadwy. Roedd hwn hefyd yn ein galluogi i drafod yr angen am newid ffocws o siarad am yr hyn sydd angen ei wneud i weithredu!

Mae hyn wedi dechrau gyda phenodiad y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, a dwi wrth fy modd y bydda i yn cadeirio’r Bwrdd newydd. Rydw i eisoes yn gweithio ar recriwtio gweddill aelodau’r Bwrdd i Weinidog y Gymraeg Addysg gymeradwyo. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi mynegi diddordeb yn swyddi newydd y Bwrdd, ac rwy’n hyderus y bydd gyda ni Fwrdd cryf yn ei le yn fuan a gobeithiwn allu cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Medi.

Gan fod gofod bach bellach cyn cynnal y cyfarfod cyntaf, roeddwn am roi diweddariad byr o’r hyn sydd fy nharo i am waith y GCSau, a hefyd i ddiolch i chi i gyd am y cyfraniad gwerthfawr rydych chi wedi’i wneud i’n helpu i gyrraedd pwynt o allu symud ymlaen gyda gweithredu argymhellion y Bwrdd blaenorol.

Yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod angen inni sicrhau ein bod yn parhau i weithio mewn ffordd gydweithredol ac effeithiol, er mwyn inni barhau i symud ymlaen gyda’n gilydd fel sector, gan rannu gwybodaeth a sgiliau ar hyd y ffordd. Mae’r adborth a ddarparwyd yn y cyfarfod GCS ar y cyd ar 2 Mawrth eleni yn awgrymu eich bod i gyd wedi croesawu’r ymagwedd gyfranogol ac yn gallu gweld manteision hyn wrth symud ymlaen. Roedd cydnabyddiaeth y gallai fod angen ailffocysu gwaith y GCSau yn unol â’r argymhellion, efallai y bydd angen ailenwi’r grwpiau, a rhaid nawr ystyried cylch gorchwyl ac aelodaeth y grwpiau hyn. Mae rhagor o enghreifftiau o’ch adborth o’r cyfarfod ynghlwm.

Rydw i felly wedi gwneud y penderfyniad, yn dilyn trafodaethau gyda Chadeiryddion presennol y GCSau, y bydd y rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r gwaith yr oeddent yn ei wneud yn oedi hyd nes y bydd y Bwrdd newydd wedi cyfarfod ac wedi ystyried y camau nesaf ar gyfer y GCSau ac ar gyfer ein cynllun gwaith ni. Mae rhai gweithgareddau’n parhau, sef yn bennaf lle bydd gweithredu cynnar yn ddefnyddiol i drafodaethau cychwynnol y Bwrdd newydd, ac wrth gwrs ar gyfer gwaith mwy hir hirdymor yn gysylltiedig â marchnata a chyfathrebu. Bydd y modd y bydd y GCSau yn gweithredu i’r dyfodol yn flaenoriaeth i’r Bwrdd newydd yn ei gyfarfodydd cychwynnol a byddaf yn ysgrifennu atoch cyn gynted â phosibl yn dilyn y trafodaethau i amlinellu ein bwriadau, ac i geisio aelodaeth ar gyfer y grwpiau hyn.

Bydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ni fod yn glir ynglŷn â beth fydd rôl arweiniol y Bwrdd newydd ar gyfer y grwpiau hyn. Dwi’n arbennig o awyddus i ddeall be allai hynny ei olygu o ran sicrhau ein bod ni’n ystyried anghenion holl bobl ifanc Cymru i sicrhau mynediad cyfartal i bawb.

Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi’n parhau i fod â diddordeb ac yn angerddol am ein helpu ni i daro mlaen â’r gwaith hwn dros y blynyddoedd nesaf, ac unwaith eto fedra i ond dweud pa mor ddiolchgar ydw i am yr holl waith ry’ch chi wedi’i wneud hyd yma. Rwy’n gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn i sicrhau bod gyda ni fodel gwaith ieuenctid yng Nghymru y gallwn i gyd ddweud ein bod wedi helpu i’w ddatblygu ac ein bod ni’n ymfalchïo ynddo ar gyfer pob person ifanc.

 

Cofion gorau

Sharon

 

Adborth o gyfarfod rhwydwaith Grwp Cyfranogi y Strategaeth (GCS) Ar y Cyd 2 Mawrth 2022

Cwestiwn o’r sesiwn grŵp – adolygu a gwerthuso gwaith y GCSau. Beth sydd wedi mynd yn dda, beth ellid ei wella a beth sydd nesaf?

 

Yn gyffredinol, mae’r GCSau wedi darparu cyfleoedd rhwydweithio gwych drwy gydol oes y GCSau. Rydym wedi gallu rhannu a chysylltu, cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig ynghylch y materion sy’n ymwneud â’r pandemig.

  • Roedd y cynlluniau gwaith yn gyfle i ddatblygu modelau ar gyfer y dyfodol, gan gydweithio
  • Bu llawer o drafod ynghylch capasiti unigolion a sefydliadau i ymgysylltu â’r gwaith a’r cynlluniau gwaith pan roeddent wrthi yn cael eu datblygu. Roedd awgrym bod angen cefnogaeth uwch arweinwyr o fewn sefydliadau i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael amser i gymryd rhan yng ngwaith y grwpiau.
  • Mae’n wirioneddol bwysig sicrhau bod y bobl iawn yn cymryd rhan yn y grwpiau, a rhaid i’r grwpiau gael ffocws a chyfeiriad.
  • Mae angen parhau â pheth o’r gwaith wrth i’r gwaith o weithredu’r argymhellion fynd rhagddo. Fodd bynnag, mae angen ystyried newid yr enwau i adlewyrchu’r symudiad i gyfnod gwahanol o’r gwaith.
  • Cydnabod yr angen am sefydlogrwydd mewn aelodaeth – yr aelodaeth gywir sy’n gallu cefnogi’r gwaith, ond hefyd i wahodd eraill yn ôl yr angen ar gyfer lefelau penodol o arbenigedd a sgiliau.
  • Croesawyd y cyfle i gyfarfod ar-lein a oedd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru, ac i fynychu’n weddol reolaidd gan y gall blethu â gwaith arall drwy gydol y dydd.
  • Maent yn rhoi cyfle i weithio’n agos gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru a chroesawyd hynny.
  • Mae angen ystyried ymhellach gynlluniau gwaith a gorgyffwrdd rhwng rhai o’r grwpiau.
  • Er bod grwpiau’n awyddus i recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn y grwpiau, ar y cyfan nid oedd hyn yn gweithio’n dda ac roedd yn anghyson ar draws y GCS. Mae angen gwneud gwaith pellach i ystyried sut mae llais pobl ifanc yn cael ei glywed ac ymateb iddo.
  • Mae angen sicrhau ymagwedd gyfranogol barhaus mewn gweithgorau yn y dyfodol, ac mae angen i’r grwpiau gael adnoddau priodol gan gynnwys cefnogi cyfranogiad pobl ifanc.
  • Mae angen brand gwaith ieuenctid clir i helpu i fod yn sylfaen i bopeth, sy’n rhan annatod o’r strategaeth hirdymor gysylltiedig, a gall helpu pobl ifanc i nodi eu bod yn mynychu gwasanaethau gwaith ieuenctid/denu at wasanaethau, a hefyd i ddenu gweithwyr proffesiynol i weithio yn y sector.

Haf o Hwyl; Ymgeiswyr Llwyddiannus

Diolch i gefnogaeth gan raglen Chwarae a Chymunedau Haf o Hwyl y Llywodraeth Cymru, mae CWVYS wedi rhoi grantiau o werth £216,718.34 i’r 30 sefydliadau canlynol sy’n aelodau o CWVYS;

Adoption UK Cymru, BAD Bikes, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Strategaeth Bryncynon, Her Cymru, Cerdd Gymunedol Cymru, Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, Dal Dy Dir, EYST, Foothold Cymru, GISDA, KPC Youth, Media Academy Cymru , Mencap Cymru, NYAS Cymru, ProMo Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Radnor, Theatr Spectacle, St John Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens & George, Swansea MAD, SYDIC, TAPE Music & Film, The Tanyard Youth Project, Twyn Community Hub, UCAN Productions , YMCA Pen-y-bont ar Ogwr, YMCA Caerdydd ac YMCA Abertawe! Waw!

 

Rhyngddynt byddant yn cynnig gweithgareddau Haf o Hwyl ar draws Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Benfro, Powys, RhCT, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam ac Ynys Môn.

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac rydyn ni’n edrych ymlaen at Haf o Hwyl hapus !

 

21/07/22 Cyfarfod CWVYS Cymru Gyfan

21 Gorffennaf 2022 Cyfarfod CWVYS Cymru Gyfan – 10yb – 11.30yb

Bydd y cyfarfod nesaf CWVYS yb Cyfarfod Cymru Gyfan, a gynhelir ar 21 Gorffennaf. Bydd y cyfarfod yn ffocysu, yng nghwmni swyddogion Llywodraeth Cymru, ar y Cwricwlwm i Gymru ac Ysgolion Cymunedol.

Fel yr arfer bydd yn gyfle i chi rannu manylion am eich darpariaeth chi, rhoi diweddariadau parthed Gwaith Ieuenctid Cymru i rwydweithio ac i ofyn cwestiynau i’n rhwydwaith o aelodau.

Agenda

  • Diweddariad ar ysgolion Cymunedol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Diweddariad ac amserlen y cwricwlwm i Gymru gan swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Diweddariad aelodau

 

RSVP – Catrin@cwvys.org.uk

Bydd y dolenni ymuno yn cael eu hanfon atoch ddydd Mercher Gorffennaf 20fed.

 

Taith Llwybr 2 yn agor yn yr Hydref

 

Newyddion o’r tîm Taith wedi eu cyhoeddi wythnos ‘ma; Taith Llwybr 2 Partneriaethau a Chydweithio Strategol yn agor yn yr Hydref

Mae Taith yn falch o gyhoeddi y byddwn yn agor yn ystod yr Hydref (2022) ein galwad am geisiadau ar gyfer Llwybr 2: Partneriaethau a Chydweithio Strategol, sy’n agored i’r sectorau addysg bellach, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion, ysgolion ac ieuenctid yng Nghymru.

Er mwyn cymryd rhan yn Llwybr 2, rhaid i sefydliadau yng Nghymru bartneru â sefydliad rhyngwladol.

Byddwn yn ariannu prosiectau rhwng sefydliadau cymwys yng Nghymru a’u partneriaid rhyngwladol sy’n dymuno cydweithio a rhannu eu harbenigedd a’u harferion gorau ar nod strategol. Ar ddiwedd y prosiect, bydd y bartneriaeth wedi cynhyrchu adnodd, offeryn neu allbwn ymarferol arall sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu sy’n hybu arfer da yn y sectorau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru.

 

Sut i gymryd rhan?

Mae’n bwysig dechrau chwilio am bartneriaid posibl ac ystyried y maes neu’r pwnc yr hoffech gydweithio arno. Bydd Llwybr 2 yn cael ei lansio ym mis Hydref, a chynhelir digwyddiadau dros y cyfnod hwn i roi mwy o wybodaeth a chymorth i ymgeiswyr.

 

Pam cymryd rhan?

Trwy Lwybr 2, byddwn yn cysylltu sefydliadau Cymreig â phartneriaid rhyngwladol, gan ddefnyddio symudedd a chydweithio i hwyluso partneriaethau a fydd o fudd i’r sector addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru’n gyffredinol, gan gynnwys:

 

  • Arloesi ym maes addysg, hyfforddiant ac ieuenctid Cymru, gan sicrhau bod Cymru’n arwain yn y meysydd hyn.
  • Codi proffil sefydliadau Cymreig mewn addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.
  • Mynd i’r afael â materion allweddol yn y sectorau addysgol yng Nghymru a’r gymdeithas ehangach.
  • Hwyluso mynediad Cymreig i sefydliadau rhyngwladol a defnyddio’r rhwydweithiau hyn a gwybodaeth ac arbenigedd partneriaid.
  • Creu partneriaethau hir-dymor gan wella gallu’r sefydliadau Cymreig i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol trwy gyfnewid pellach.
  • Mynd i’r afael â’r rhwystrau i gyfranogiad yn Llwybr 1 Taith a chynyddu cyfleoedd cyfranogiad.

 

Gwybodaeth bellach

Ewch i wefan Taith.cymru neu cysylltwch â thîm Taith ar enquiries@taith.wales am ragor o wybodaeth.

CWVYS, mewn partneriaeth â Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru a WCIA, yw’r Corff Trefnu ar gyfer y Sector Ieuenctid yng Nghymru, i ddarganfod mwy am y gefnogaeth a gynigir, ewch i’n tudalen adnoddau yma; https://www.cwvys.org.uk/adnoddau/ neu e-bostiwch Swyddog Cyfathrebu CWVYS drwy Helen@cwvys.org.uk

ENWEBWCH NAWR: Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid

Mae’n Wythnos Gwaith Ieuenctid yma yng Nghymru a pha amser gwell i edrych yn ôl ar gyflawniadau a dathlu cyfraniad Gwaith Ieuenctid i bobl ifanc a chymunedau Cymreig?

Beth am fynd un cam ymhellach a chyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid!?

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a’r rhai sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl, a theimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Trwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, mae dulliau gwaith ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd bywyd.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar gyfer Gwobrau eleni wedi ymestyn i Gorffennaf yr 8fed; https://llyw.cymru/gwobrau-rhagoriaeth-gwaith-ieuenctid/enwebwch

Digwyddiad Wythnos Gwaith Ieuenctid Cyswllt Trwy Goginio

Neges gan Wasanaeth Ieuenctid Torfaen yn rhoi ychydig mwy o fanylion am eu digwyddiad yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid sy’n cael sylw yn y Calendr yma; https://www.cwvys.org.uk/event/wythnos-gwaith-ieuenctid/?lang=cy

 

 

Cysylltu Trwy Goginio

Ymunwch â ni’n rhithiol am 4 o’r gloch bnawn Gwener, 24ain Mehefin i gysylltu gyda phobl ifanc eraill i baratoi a bwyta brechdanau lapio blasus, iachus.

Bydd y weithgaredd yn digwydd ar Microsoft Teams ac ar gael drwy gyfwrng y Gymraeg a’r Saesneg.

Byddwch chi angen bara lapio (‘wraps’) ac ychydig o olew llysiau, yna gallwch ddewis pa bynnag gynhwysion ‘rydych yn eu hoffi!

Dolen Microsoft Teams Cysylltu trwy goginio / Connect through Cooking

 

Cynhwysion

Fe fydd arnoch chi angen wraps a rhywfaint o olew llysiau ond ar wahân i hynny, gallwch chi ddewis pa bynnag gynhwysion rydych chi’n eu hoffi!
Rhai opsiynau;

Caws
Cyw iâr
Tofu
Falafel
Pupur
Nionod
Letys
Tomatos
Hwmws
Madarch
Salsa
Mayo

Mae croeso i chi addasu i’ch flas a’ch cyllidebau.

Pa offer fydd ei angen arnoch chi?

Padell ffrio
Ysbatwla
Cyllell/iau
Byrddau torri
Hob coginio
Olew llysiau

 

NODIADAU DIOGELWCH

Mae cyllyll yn finiog! Dim rhedeg, trywanu na thorri unrhywbeth heblaw’r cynhwysion. Mae tân yn boeth! Peidiwch â chyffwrdd a chymerwch ofal pan mae olew’n tasgu. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud y gweithgaredd yn ddiogel, ac ochr yn ochr â rhywun cyfrifol petai angen.

CYFLE OLA – GWOBRAU HEDDWCH IFANC 2022

GWOBRAU HEDDYCHWYR IFANC 2022 – CYFLE OLAF I GYFLWYNO CAIS!

Fe gyhoeddir enillwyr y Gwobrau pwysig hyn mewn seremoni arbennig ar faes Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 7 Gorffennaf.  Os ydych yn byw yng Nghymru a rhwng 5 a 25 blwydd oed, peidiwch â cholli cyfle i fod yn rhan o’r Gwobrau cyffrous hyn!

Dyddiad cau newydd – mae gennych tan 17 Mehefin, 2022 i anfon eich ceisiadau atom – ysgrifennu creadigol a beirniadol, gwaith celf, perfformiadau, ffilm, cyflwyniadau ar weithredu i greu newid. Peidiwch â bod yn swil – anfonwch eich cais heddiw!  

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am y categorïau, ffurflen cais a thelerau ac amodau, ewch i’r dudalen Gwobrau Heddychwyr Ifanc ar wefan y WCIA neu cysylltwch â: centre@wcia.org.

Cadeirydd newydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Rydym mor falch gyda phenodiad Sharon Lovell, Prif Swyddog Gweithredol NYAS Cymru ac Is-Gadeirydd CWVYS yn Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd. Cyhoeddwyd hyn gan y Gweinidog ddoe mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.

Gyda chyhoeddiad y Cadeirydd, mae’r gwaith o recriwtio aelodau’r bwrdd bellach wedi ddechrau, gallwch weld y manylion ar y Tudalen we Penodiadau Cyhoeddus.

Llongyfarchiadau enfawr gan bawb yn CWVYS i Sharon Lovell MBE ar ei phenodiad!

Mae Sharon wedi bod yn Is-Gadeirydd ac Ymddiriedolwr hynod gefnogol i CWVYS ers 2016 a byddwn yn amlwg yn gweld eisiau ei harbenigedd, ei hymrwymiad llwyr, ei sgil a’i hiwmor da. Fodd bynnag, gwyddom y bydd pob un o’r rhinweddau hynny a mwy yn cael eu defnyddio’n wych o dda yn ei rôl newydd, bwysig. Mae CWVYS yn edrych ymlaen at weithio gyda Sharon ac aelodau’r Bwrdd Gweithredu ar yr amser cyffrous iawn hwn i wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Adnoddau Wythnos Gwaith Ieuenctid

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru yn agosáu!

O’r 23ain i’r 30ain o Fehefin rydym yn dathlu cyfraniad Gwaith Ieuenctid i Gymru a’n pobl ifanc, a pha ffordd well eleni na gyda’r thema ‘lles’?!

I’ch helpu i gymryd rhan mae’r tîm Marchnata a Chyfathrebu (Ellie a Branwen) wedi llunio pecyn adnoddau dwyieithog. Mae 5 delwedd hyfryd (fel yr un uchod) ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chymhellion i feithrin lles fel “Bod yn Fywiog” a “Parhau i Ddysgu” gan gynnwys yr hashnodau eleni; #WGI22 #YWW22 (y ddau yn sefyll am Wythnos Gwaith Ieuenctid 2022 a) #LlesGI #YWWellbeing (sy’n golygu Lles Gwaith Ieuenctid).

Gallwch ddod o hyd i’r delweddau hynny, Pecyn Gwybodaeth Wythnos Gwaith Ieuenctid a sleidiau PowerPoint defnyddiol Ellie sy’n egluro’r adnoddau a sut y gallech eu ddefnyddio yn ogystal a manylion ar digwyddiadau a gynhelir yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid a llawer mwy.

Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i chi ac edrychwn ymlaen i weld chi’n rannu eich straeon gwaith ieuenctid ac yn dathlu’r wythnos pan ddaw o gwmpas. Peidiwch ag anghofio tagio @CWVYS pan fyddwch chi’n postio ar twitter, ac wrth gwrs @YWWales ac @Addysg_Cymraeg fel bod eich straeon yn ymestyn ymhell.

Rhowch wybod i mi os oes gennych unrhyw gwestiynau (helen@cwvys.org.uk) neu mae croeso i chi gysylltu ag Ellie@cwvys.org.uk neu Branwen@cwvys.org.uk

Cyfleoedd Her Cymru i Bobl Ifanc

Mae’r haf yn dod! Amser am antur ar y moroedd mawr!

Felly cerddwch eich coesau môr i fyny ein planc gang a neidiwch ar fwrdd Her Cymru am brofiad sy’n newid eich bywyd!

Mae Her Cymru wedi trefnu nifer o Deithiau Preswyl cyffrous i bobl ifanc – gweler y poster yma, ac edrychwch ar ein gwefan.

Sylwch: Y gost a roddir yw’r uchafswm – yn dibynnu ar gymhwyster, gyda’n bwrsariaethau ychwanegol gall y gost gael ei LLEIHAU’N FAWR i FFIGURAU DWBL: o bosib i ddim ond £50, neu hyd yn oed £25 y lle!!

Ac i holl gyfranogwyr Gwobr Aur Dug Caeredin: gall y cyfle hwn fod yn weithgaredd Adran Breswyl i chi!

Felly os ydych chi’n adnabod unrhyw bobl ifanc a allai fod â diddordeb, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a gwnewch hwn yn haf i’w gofio.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyd ar y bwrdd.

 

Cynllun Bwrsariaeth Her Cymru Ar Agor Ar gyfer pobl ifanc 14 – 25 oed

Mae Her Cymru, yr elusen datblygu ieuenctid sy’n mynd â phobl ifanc i’r môr yn chwilio am sefydliadau partner a phobl ifanc i fanteisio ar eu cynllun bwrsariaeth.

Y rhai sydd wedi neidio ar fwrdd un o longau Her Cymru o’r blaen; Her Cymru| Mae Llong Uchel Cymru neu Antur Cymru wedi elwa ar iechyd meddwl gwell, wedi gwella sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu, wedi dysgu am lythrennedd cefnforol, wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddor dinasyddion, wedi cyflawni eu Cwrs Preswyl Aur Dug Caeredin, wedi dysgu sgiliau hwylio, wedi datblygu hyder ac wedi gwneud pethau newydd. ffrindiau. Mae rhai o fuddiolwyr cynllun bwrsariaeth Her Cymru yn y gorffennol wedi symud i mewn i waith o ddiweithdra, wedi gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd ac wedi cael profiad sydd wedi newid eu bywydau. Ac mae’r rhan fwyaf o hyn wedi’i wneud yn bosibl drwy gynllun bwrsariaeth Her Cymru sy’n cyfrannu at gost y teithiau.

Gyda theithiau’n para rhwng 1 diwrnod a 7 diwrnod, bydd cynllun bwrsariaeth Her Cymru yn gwarantu bwrsariaeth yn awtomatig i dalu am o leiaf 50% o’r costau. Fodd bynnag, i’r rhai sydd angen mwy o gymorth ariannol, yn aml gall cymorth bwrsariaeth ychwanegol dalu’r rhan fwyaf o gostau’r daith er mwyn sicrhau bod cyfleoedd Her Cymru mor hygyrch â phosibl. Tra ar gychod Her Cymru, bydd pobl ifanc yn dysgu sut i redeg y cwch, dysgu rhai sgiliau hwylio, cymryd rhan mewn gwylio bywyd gwyllt wrth fod yn rhan o dîm a chael llawer o hwyl – ac nid oes angen profiad hwylio i gymryd rhan. A chyda llawer o fordeithiau yn cynnig achrediad Agored Cymru, ac ar gyfer teithiau hirach Gwobr John Muir neu Breswyl Aur Dug Caeredin sydd newydd ei lansio, mae digonedd o gyfleoedd i ymuno â thaith Her Cymru a rhoi rhywbeth ar eich CV.

Gan fod gweithgareddau awyr agored, ac yn arbennig bod ar y môr mewn ‘man glas’ yn cynnig buddion sylweddol i bobl ifanc, mae’r elusen yn chwilio am bartneriaid a fyddai eisiau manteisio ar y cynllun bwrsariaeth, neu i unigolion neidio ymlaen tra bod y bwrsariaeth yn dal ar gael. yn ystod haf a hydref 2022.

Am fanylion pellach cysylltwch â: reservations@challengewales.org neu ffoniwch 029 20 704657 a siaradwch â Laura neu Kerry.
Gallwch hefyd ddod o hyd i Her Cymru ar Facebook, Twitter ac Instagram. Chwiliwch am @ChallengeWales