Gweler isod newyddion gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (SVYWO)

Bydd cylch presennol y Grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol yn dod i ben ym mis Mawrth 2025, ac rydym yn falch iawn o ddweud bod cyllid ar gyfer sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yn debygol o barhau ar gyfer 2025 ymlaen.

Gweler y canllawiau a’r ffurflen cais amgaeedig i gael rhagor o wybodaeth.Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Fel mewn cylchoedd grant blaenorol, ni wneir unrhyw benderfyniadau ar gyllid hyd nes y bydd penderfyniadau o ran y gyllideb yn hysbys yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Tachwedd 2024

Dyma wahoddiad i weithdy digidol byr er mwyn trafod y Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol ar 17 Hydref am 10:00 am. Byddwn yn trafod y meini prawf ac amodau’r grant ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu i gofrestru eich diddordeb mewn derbyn dolen i fynychu’r sesiwn wybodaeth ar-lein, cysylltwch â ni ar gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Cysylltiadau y We:

https://www.llyw.cymru/y-cynllun-grant-strategol-ar-gyfer-sefydliadau-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-svywo-gwybodaeth-i

https://www.llyw.cymru/y-cynllun-grant-strategol-ar-gyfer-sefydliadau-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-svywo-ffurflen-gais