Adolygiad o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru – Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae gwaith ieuenctid yn rhan hanfodol o’r teulu addysg yng Nghymru. Gall gwaith ieuenctid helpu pobl ifanc i feithrin perthynas â chyfoedion ac oedolion dibynadwy, magu hyder a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, a gall roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas. Mae gwaith ieuenctid yn cael ei gynnig gan awdurdodau lleol ac ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, ac mae’r ddarpariaeth yn amrywiol iawn, yn dibynnu ar anghenion pobl ifanc o bob cefndir.

Wrth gwrs, mae angen adnoddau ar y gwasanaethau hyn er mwyn gallu darparu ar gyfer pobl ifanc, o ran staffio a chyllid.  Un o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro oedd cynnal adolygiad o’r cyllid sydd ar gael i’r sector gwaith ieuenctid. Ymgymrwyd â’r gwaith hwn mewn cydweithrediad â thri sefydliad addysg uwch ledled Cymru – Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Roedd tri cham i’r broses. Nod camau un a dau oedd sefydlu pa gyllid oedd ar gael i’r sector, sut mae’r cyllid hwnnw yn cael ei wario, a sut y gwneir penderfyniadau am gyllid. Mae’r adroddiad o gam 2 yn rhoi gwybodaeth a thystiolaeth gyfoethog inni ynghylch natur gymhleth cyllid gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at y gwaith hwn, gan gynnwys Grŵp Llywio’r Adolygiad o Gyllido Gwaith Ieuenctid, rhanddeiliaid o amrywiaeth eang o sefydliadau, yn ogystal â phobl ifanc.

Bwriad cam 3 yr adolygiad hwn oedd cynnal dadansoddiad cost a budd i helpu i ddangos effaith gwaith ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd diffyg tystiolaeth ddiweddar a chadarn o safbwynt Cymru yn benodol, ni fu’n bosibl cyflawni’r cam hwn o’r adolygiad yn y ffordd a ragwelwyd yn wreiddiol. Yn hytrach, yn ystod yr wythnosau nesaf, bwriedir cyhoeddi diweddariad ar y gwaith, gan roi manylion yr heriau a wynebwyd a meysydd lle gallai gwaith ymchwil pellach helpu i fynd i’r afael â rhai o’r bylchau hynny yn y dystiolaeth, a thynnu sylw at rywfaint o’r wybodaeth ansoddol werthfawr a gawsom gan y sector a phobl ifanc yn benodol.

Mae camau un a dau o’r adolygiad yn darparu argymhellion defnyddiol a phellgyrhaeddol yr wyf yn awyddus i’w harchwilio a’u cefnogi.

Mae fy ymatebion i’r argymhellion hyn i’w gweld ar *wefan y Llywodraeth Cymru yma*