Dros yr wythnosau nesaf bydd mwy o weminarau ar Taith Llwybr 2, a gynhelir gan dîm Taith.
Bydd y rownd hon o ddigwyddiadau ar ffurf sesiwn holi ac ateb gyda’r tîm:https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-holi-ac-ateb/
4 yp Dydd Iau y 10fed o Dachwedd (Cymraeg)
4 yp Dydd Gwener yr 11eg o Dachwedd (Saesneg)
12 yp Dydd Mawrth y 15fed o Dachwedd (Saesneg)
Ar gyfer gweminarau yn Saesneg sylwer, byddant yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ond fe’ch anogir a’ch bod yn gallu cyflwyno cwestiynau a sylwadau, yn y Gymraeg.
Mae’n debygol na fydd gweminarau’n para mwy nag 1 awr.
Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru
Mae’r tîm mor gefnogol ac rwy’n eich annog i gysylltu â nhw (neu ni os nad ydych yn siŵr) gan y byddant yn onest yn gwneud yr hyn a allant i’ch helpu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Llwybr 2 ar wefan Taith: https://www.taith.cymru/pathway_2/ieuenctid/trosolwg/