Gohebiaeth gan Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar sefydlu corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid
Helo bawb
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Mae’r haf yn teimlo fel atgof pell erbyn hyn, ond gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael amser i ymlacio a gorffwys dros y misoedd diwethaf.
Roeddwn i eisiau rhoi diweddariad byr ichi gan Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar y sefyllfa ar hyn o bryd o ran un o argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, sef y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Fel Bwrdd, rydym o’r farn bod yr argymhelliad hwn yn bwysig iawn, a bod cysylltiad agos rhyngddo a llawer o’r argymhellion eraill a wnaed gan y Bwrdd Dros Dro. Fodd bynnag, rydym hefyd yn deall bod angen ymchwilio’n llawn i rôl, cylch gwaith a swyddogaethau posibl corff cenedlaethol, ynghyd ag asesu costau, heriau a manteision sefydlu corff o’r math hwn.
Mae’r Bwrdd bellach wedi trafod yr argymhelliad hwn yn fanwl, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru. Bydd rhai ohonoch hefyd wedi bod yn rhan o rai trafodaethau cychwynnol a lefel uchel gyda swyddogion Llywodraeth Cymru wrth iddynt gasglu tystiolaeth i helpu Gweinidogion i wneud penderfyniadau gwybodus ar sail tystiolaeth ar y camau nesaf. Rwyf ar ddeall bod y trafodaethau wedi bod yn agored ac yn onest, ond hefyd wedi ysgogi cryn ystyried, yn enwedig o ran sut y gallai corff cenedlaethol helpu i gryfhau’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n cyflenwi’r gwasanaethau hynny. Diolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y sgyrsiau cychwynnol hyn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.
Bydd gwaith pellach yn parhau i ymchwilio i faterion allweddol yn fanylach, gan gynnwys sut y byddai corff cenedlaethol yn gweithio gyda strwythurau a sefydliadau eraill sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â nodi meysydd sydd angen cymorth pellach. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch sefydlu corff cenedlaethol, ond bydd yr ymgysylltu â’r sector yn parhau wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, a byddem fel Bwrdd yn annog pawb ar draws y sector i gyfrannu at y trafodaethau dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal, gobeithio bod y rhan fwyaf ohonoch bellach wedi gweld yr ymgynghoriad ar fframwaith statudol newydd arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid. Efallai y bydd gennych gwestiynau ynghylch sut y bydd y ddau linyn gwaith hyn yn cysylltu os oes angen, a hoffwn eich sicrhau bod y fframwaith statudol newydd arfaethedig yn ddigon hyblyg i’w alluogi i weithio gyda chorff cenedlaethol, pe bai un yn cael ei sefydlu. Ga i eich annog i ddarllen ac ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau, sef 10 Ionawr 2025?
Fel bob amser, hoffwn fynegi fy niolch a’m gwerthfawrogiad ichi i gyd wrth i’r sector barhau i weithio’n galed a chyfrannu at gynnal gwaith ieuenctid nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc yng Nghymru.
Sharon Lovell,
Cadeirydd: Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid