Mae’n Wythnos Gwaith Ieuenctid yma yng Nghymru a pha amser gwell i edrych yn ôl ar gyflawniadau a dathlu cyfraniad Gwaith Ieuenctid i bobl ifanc a chymunedau Cymreig?
Beth am fynd un cam ymhellach a chyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid!?
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a’r rhai sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl, a theimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Trwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, mae dulliau gwaith ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd bywyd.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar gyfer Gwobrau eleni wedi ymestyn i Gorffennaf yr 8fed; https://llyw.cymru/gwobrau-rhagoriaeth-gwaith-ieuenctid/enwebwch