- This event has passed.
Cynhadledd Atal Trais yn Erbyn Menywod a Merched
October 3 @ 8:30 am - 4:00 pm
Diolch i gyllid gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid o Brifysgol De Cymru, Plan UK, Diogelwch Cymunedol a’r Uned Atal Trais i gynnal cynhadledd ym mis Hydref ar y thema Atal Trais yn Erbyn Menywod a Merched.
Dyddiad: Dydd Iau 3ydd Hydref
Amser: 8:30 – 4pm
Lleoliad: Y Deml Heddwch, Caerdydd
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i glywed gan amrywiaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol am eu gwaith i atal trais yn erbyn menywod a merched. Byddwn yn clywed am ymgyrchoedd cyfredol, ymyrraeth gynnar a chefnogaeth, addysg a chodi ymwybyddiaeth, yn ogystal â gwaith anhygoel sefydliadau sy’n cefnogi dioddefwyr trais a cham-drin domestig.
Mae lleoedd am ddim.
Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, cliciwch ar y ddolen hon a chadwch y dyddiad yn rhydd yn eich calendr.