NYAS Cymru – Pethau Pwysig i Mi
March 12 @ 10:30 am - 1:30 pm
Dymuna NYAS Cymru Eich Gwahodd I: Pethau Pwysig i Mi
Dydd Mercher 12 Mawrth 2025, 10:30am – 1:30pm, Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd
Noddir gan Julie Morgan AS
Bydd NYAS yn dwyn sylw ar ddylanwad ein hymgyrch “Pethau Pwysig i Mi” sy’n ceisio gwella cymorth a pharch i blant sydd â phrofiad o dderbyn gofal a’u heiddo pan fyddant yn symud o’r naill leoliad gofal i un arall ledled Cymru a Lloegr, a rhoi’r gorau i ddefnyddio bagiau biniau yn ystod y broses symud. Byddwn yn rhannu manylion ein dulliau o gydweithredu ag awdurdodau lleol, a byddwn yn cael cyfle i wrando ar gyflwyniad gan Madlug, sydd wedi rhoddi mwy na 1,000 o fagiau yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yng Nghymru.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys: pobl ifanc, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, Comisiynydd Plant Cymru, Rita Water (Prif Weithredwr NYAS), Dave Linton (Prif Weithredwr Madlug)
Dewch atom i’r digwyddiad i ganfod sut gallwch helpu i wneud gwahaniaeth er gwell.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, trowch at ein gwefan yma. Os dymunwch wella profiadau plant a phobl ifanc yr ydych yn gyfrifol am ddarparu gofal iddynt pan fyddant yn gorfod symud, gall eich awdurdod lleol wneud hynny trwy lofnodi addewid ‘Pethau Pwysig i Mi’ yn rhad ac am ddim yma.
Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 28ain o Chwefror ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ddydd Mercher 12 Mawrth 2025.