Fel rhan o’r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu gwaith ieuenctid yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am glywed gan bobl ifanc er mwyn deall yn well:-
- sut mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru
- darganfod arfer gorau ar gyfer cynnwys pobl ifanc
- beth yw’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o’r prosesau gwneud penderfyniadau
I helpu gyda hyn, cynhelir ‘Fforwm’ preswyl ar Awst 20-22 yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn y Bala, gan ddod â chriw o 30 o bobl ifanc ynghyd i rannu eu barn a’u profiadau a helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid. yng Nghymru.
Dros y sesiwn breswyl tridiau, bydd cyfle i:
- cymryd rhan mewn sesiynau trafod ar sut mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y prosesau gwneud penderfyniadau
- beth yw cyfranogiad effeithiol?
Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac adloniant gyda’r nos.
Ni fydd cost i gymryd rhan a byddwn yn gwneud yr holl drefniadau cludiant angenrheidiol.
Cyfle i gwrdd â’r staff a fydd yn y Fforwm ac i gwrdd â chyd-aelodau’r Fforwm.
Sut i wneud cais
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y ‘Fforwm’? Os felly, gallwch wneud cais trwy’r ffurflen ar-lein https://forms.office.com/e/q4W2QGaqN1
Gallwch hefyd gyflwyno’ch cais ar gyfer fideo i fforwm@urdd.org Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 21Mehefin 2024.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod ar gael i fynychu ar y dyddiadau 20 Awst i 22 Awst.
Bydd cyfranogwyr Fforwm yn cael eu dewis i sicrhau eu bod yn adlewyrchu ystod mor eang o gefndiroedd, hunaniaeth a phrofiadau pobl ifanc yng Nghymru. Rydym hefyd yn chwilio am gyfranogwyr sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd yn ogystal â’r rhai nad sydd yn gysylltiedig a gwaith ieuenctid.
Cynhelir y Fforwm Preswyl yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae croeso i chi rannu ac os hoffech wybod mwy cysylltwch â catrinj@urdd.org