Mae Manon yn brysur gyda rhifyn nesaf y Fwletin Gwaith Ieuenctid gan y Llywodraeth Cymru
Os hoffech wybod mwy am y Bwletin, gan gynnwys sut i gyfrannu, cysylltwch â Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r Sector Ieuenctid yng Nghymru, Manon Williams, drwy Manon@cwvys.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnwys ar gyfer y rhifyn nesaf yw 17 Mehefin
Os hoffech dderbyn rhifynnau yn y dyfodol yn uniongyrchol gallwch danysgrifio yma: Tanysgrifio i gylchlythyr gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU
Mae Bwletin Gwaith Ieuenctid diweddaraf Llywodraeth Cymru bellach yn fyw ar y wefan. Gallwch ei weld yma: Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar Gael Nawr! (govdelivery.com)
Ar gyfer rhifynnau blaenorol o’r Bwletin gweler y dudalen hon: Cylchlythyrau gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU
Mae’r Fwletin ond yn un rhan o Raglen Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid gan Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 – 2025, sydd ar gael yma; Gwaith ieuenctid – rhaglen farchnata 2425 (dwyieithog)
Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod bod y tîm yn bwriadu datblygu rhwydwaith o Bencampwyr Gwaith Ieuenctid trwy gydol y flwyddyn i dynnu sylw at ragoriaeth arloesi, gan ehangu ar y thema ‘Pam Gwaith Ieuenctid?’. Os ydych yn gwybod am brosiect yr hoffech ei amlygu, cysylltwch â manon@cwvys.org.uk.