Dyma neges bwysig oddi wrth tîm Ymgysylltu ieuenctid y Llywodraeth Cymru;
Disgwylir i gylch presennol y Grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO) ddod i ben ym mis Mawrth 2022, ac rydym yn falch iawn o ddweud bod cyllid ar gyfer sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yn debygol o barhau ar gyfer 2022 ymlaen.
Er hyn, bydd rhai newidiadau i’r fformat presennol. Wrth ystyried sut y gallwn helpu i sicrhau bod profiadau gwaith ieuenctid o’r radd flaenaf ar gael i bob person ifanc yng Nghymru, rhaid inni sicrhau ein bod yn ystyried ffyrdd y gallwn gynnig lefelau uwch o gynhwysiant ac amrywiaeth. Felly, rydym yn agor cylch ymgeisio newydd ar gyfer 2022-2024, sef y Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol.
Bydd dwy elfen i’r Grant, a bydd yr elfen gyntaf yn seiliedig ar y grant NVYO blaenorol ac ar gyfer sefydliadau cenedlaethol sy’n gweithio ar draws ardaloedd awdurdodau lleol 18+. Bydd yr ail elfen ar gyfer sefydliadau arbenigol llai o faint sy’n darparu gwaith ieuenctid i bobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig neu’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Gweler y canllawiau a’r ffurflenni cais i gael rhagor o wybodaeth;
Ffurflen cais: Grant Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol – Ffurflen gais 2022-2024 – Rownd derfynol Cymru
Fel mewn cylchoedd grant blaenorol, ni wneir unrhyw benderfyniadau ar gyllid hyd nes y bydd penderfyniadau o ran y gyllideb yn hysbys yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau Tachwedd 11 2021.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch a’r tîm ar gwaithieuenctid@llyw.cymru.