Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Y Gymraeg, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd y “Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai hefyd sicrhau mai un o flaenoriaethau allweddol y Corff Cenedlaethol fydd hyrwyddo gwasanaethau gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Rydym yn awyddus felly i ddarganfod mwy am y pethau da sydd yn digwydd ledled Cymru yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r sector fel y gall cyfrannu at ddatblygiad yr argymhelliad yma, ac agweddau eraill o’n gwaith.
Byddem yn rhannu’r gwaith sydd yn digwydd ar lefel cenedlaethol yn y gweminar yma, llawer ohono yn newydd ac yn parhau i ddatblygu. Byddem yn trafod y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y gwaith a’r camau nesaf.
Uchelgais GCG Y Gymraeg yw gweld fframwaith strategol yn datblygu a fyddai’n amlinellu’n glir sut y byddai trawstoriad o sefydliadau yn cynllunio’n bwrpasol er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym eisiau clywed felly gan amrywiaeth o sefydliadau er mwyn parhau i ddatblygu’r drafodaeth hon. Rhennir esiamplau o ymarfer gorau a phrofiadau wrth ymateb i heriau yn ystod y gweminar, ac rydym yn awyddus i gasglu tystiolaeth bellach i gefnogi’r gwaith yma.
Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:
– Lowri Jones, Menter Iaith Sir Caerffili – Cadeirydd GCG Y Gymraeg
– Iestyn Wyn, Llywodraeth Cymru
– Prosiect CFTi – Cyngor Dinas Caerdydd, Menter Caerdydd a’r Urdd
– GISDA
– Urdd Gobaith Cymru
Bydd ail ran y gweminar yn cynnwys gweithdai mewn grwpiau llai i drafod y canlynol:
– Sut gallwn gynllunio’n strategol, fel partneriaid, i gynyddu gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg?
– Beth yw rhai o’r cyfleoedd a’r rhwystrau posib?
Croesawir Cyfarwyddwyr, Cydlynwyr, Penaethiaid Gwasanaethau a Phrif Weithredwyr sefydliadau sydd yn rheoli a chynllunio gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.
Cofrestrwch heddiw: https://lu.ma/i2rizvem
07 Mawrth 2024
10 – 11:30yb